Cynhadledd Sefydlog Cyngor Ymgynghori Sefydlog Blaenau Gwent ar Addysg Grefyddol

Cynhelir cyfarfod rhithiol o Gyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) Cyngor Blaenau Gwent ar 1 Gorffennaf.
Ym mis Mehefin 2013 cymeradwyodd y Pwyllgor Sefydlog ailfabwysiadu Maes Llafur Cytunedig ar gyfer Addysg Grefyddol Blaenau Gwent gyda’r ddealltwriaeth y caiff y maes llafur ei adolygu unwaith y derbynnir mwy o wybodaeth yn ymwneud â’r asesiad a’r adolygiad o’r cwricwlwm cenedlaethol.
Oherwydd y canllawiau a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar ar fframwaith newydd Cwricwlwm i Gymru, mae awdurdodau lleol ar draws Cymru a’u CYSAGau yn awr mewn sefyllfa i ddechrau paratoi ar gyfer mabwysiadu Maes Llafur Cytunedig newydd.
Trefnwyd cynhadledd maes llafur cytunedig ar gyfer dydd Gwener 1 Gorffennaf am 11am.
Gall unrhyw un sy’n dymuno gysylltu â Michelle Jones yn michelle.jones@blaenau-gwent.gov.uk