Cyngor yn symud ymlaen ar adeiladu Ysgol Gynradd Gymraeg newydd

Mae Pwyllgor Gweithredol Cyngor Blaenau Gwent wedi cytuno symud ymlaen i’r cam nesaf mewn cynnig i adeiladu Ysgol Gynradd Gymraeg newydd yn Nhredegar.

Daeth ymgynghoriad, yn cynnwys yr holl brif randdeiliaid, i ben yn ddiweddar ar y cynnig i ddatblygu ysgol ‘egin’ Gymraeg 210 lle gyda gofal plant ar yr un safle, yn Chartist Way. Byddai’r ysgol yn cael ei hadeiladu yn defnyddio £6 miliwn o fuddsoddiad cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y Cyngor yn awr yn symud i gyhoeddi Hysbysiad Statudol, fydd yn fyw am 28 diwrnod ac a fydd yn caniatáu unrhyw barti sydd â diddordeb i wneud gwrthwynebiad ffurfiol.

Blaenau Gwent yw’r unig ardal awdurdod lleol yng Nghymru i fod â dim ond un ysgol gynradd Gymraeg.

Byddai’r ysgol yn cael ei hadeiladu i safonau modern Ysgolion yr 21ain Ganrif. Byddai creu ysgol gynradd Gymraeg yn ardal Tredegar/Cwm Sirhywi yn galluogi’r Cyngor i ddiwallu unrhyw gynnydd yn y galw am leoedd gofal plant ac addysg cyfrwng Cymraeg.

Cyflwynwyd yr adborth o’r ymgynghoriad chwe wythnos i aelodau’r Pwyllgor Gweithredol cyn iddo wneud penderfyniad heddiw (dydd Llun 22 Chwefror 2021).

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Collins, Aelod Gweithredol Addysg y Cyngor:

“Uchelgais Llywodraeth Cymru yw cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac ym Mlaenau Gwent, drwy ein Cynllun Strategol Addysg Gymraeg, mae gennym uchelgais i dyfu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn gweld galw cynyddol am leoedd addysg a darpariaeth blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg yn lleol, a bydd ysgol newydd gyda gofal plant ar y safle yn rhoi mwy o ddewisiadau i rieni wrth ddewis llwybr addysg ar gyfer eu plant.

“Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad sydd wedi galluogi’r Pwyllgor Gweithredol i wneud penderfyniad gwybodus heddiw a chytuno’n unfrydol i symud ymlaen gyda’r cynnig.”

Byddai’r ysgol newydd yn dechrau fel ‘darpariaeth egin’ gyda dosbarthiadau meithrin a derbyn ac yn tyfu i ddarpariaeth ar gyfer pob blwyddyn erbyn 2029.

Fel rhan o’r ymgynghoriad cysylltodd y Cyngor gyda chyrff llywodraethol, staff ysgolion, plant a phobl ifanc, rhieni a phreswylwyr lleol i gasglu ystod o safbwyntiau.