Cyngor yn parhau i wella ei berfformiad ailgylchu

Mae Blaenau Gwent unwaith eto wedi cyrraedd ei dargedau ailgylchu blynyddol er yr heriau casglu ychwanegol a wynebwyd drwy gydol y pandemig. Cafodd adroddiad ei gyflwyno a’i dderbyn yn y Pwyllgor Gweithredol (dydd Mercher 10 Tachwedd) a ffigurau yn cadarnhau fod Blaenau Gwent wedi cyflawni cyfradd ailgylchu o 64.29%, yn uwch na’r targed o 64% a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Daeth llawer o heriau sylweddol i’r amlwg yn y 12 mis diwethaf wrth i arferion prynu newid . Er enghraifft, mae’r casgliad cardfwrdd o ddrws i ddrws wedi cynyddu gan 36.66%. Mae polisïau cyfnod clo ac aros gartref wedi gweld cynnydd o 1350 tunnell fetrig mewn casgliadau o ddrws i ddrws, ynghyd â 500 tunnell fetrig ychwanegol o ailgylchu bwyd.

Mae ein perfformiad ailgylchu yn parhau i gefnogi Cynllun Corfforaethol y Cyngor ym mlaenoriaeth “Cymunedau Cryf ac Amgylcheddol Graff”, sef cynyddu cyfradd ailgylchu a chyrraedd targedau ychwanegol. Mae’r ffigurau a roddir yn Adroddiad Perfformiad Gwastraff ac Ailgylchu 2020/21 yn addawol iawn ar gyfer y dyfodol ac ar y targed i gyrraedd y ffigur ailgylchu o 70%, a osododd Llywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol erbyn 2024/25.

Dywedodd y Cynghorydd Joanna Wilkins, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd:

“Hoffwn ddiolch i’n preswylwyr am barhau i ailgylchu a meddwl mwy am sut maent yn gwaredu â’u gwastraff a’n gweithwyr rheng flaen ailgylchu a gwastraff sydd wedi parhau i weithio drwy gydol y cyfnod heriol hwn. Dengys Adroddiad Perfformiad Gwastraff ac Ailgylchu eleni ein bod wedi parhau i gyrraedd ein targedau ailgylchu drwy’r cyfnod digynsail hwn. Rwy’n falch o berfformiad a gwaith caled ac ymroddiad ein Tîm Gwastraff yn un o’n blynyddoedd mwyaf anodd.

"Mae cyflwyno technegau newydd, sy’n darparu ar gyfer newidiadau diweddar mewn ymddygiad ailgylchu, yn golygu ein bod yn datblygu a moderneiddio ein dull gweithredu ar gyfer y dyfodol. Gallwn i gyd wneud gwahaniaeth ac mae pob un person sy’n ailgylchu eu gwastraff yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd drwy arbed ynni a gostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr.

“Bydd targed Llywodraeth Cymru yn cynyddu i 70%. Gellir dal i wneud mwy a byddwn yn hoffi annog ein preswylwyr i ddal ati i ailgylchu.

“Gall y rhan fwyaf o’ch gwastraff gael ei ailgylchu a’i waredu’n wythnosol. Os yw preswylwyr angen derbynyddion ychwanegol neu gefnogaeth ar yr hyn y gellir ei ailgylchu, ewch i wefan y Cyngor neu gysylltu â C2BG.”