Cyngor yn gwneud cynnydd da mewn ystod eang o brosiectau Adfywio

Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi gwneud cynnydd da gyda’i waith adfywio er yr heriau a gyflwynwyd wrth ddelio gyda phandemig Covid-19. Cyflwynwyd manylion y gwaith mewn adroddiad i Bwyllgor Gweithredol y Cyngor.

Mae’r prif gynlluniau adfywio a amlygwyd fel llwyddiant yn cynnwys datblygiad tai £16.8 miliwn yng Ngolwg y Bryn (gogledd Glynebwy) sydd ar gamau olaf cwblhau a phrosiect £29 miliwn gan y cwmni adeiladu tai Persimmon yng Ngarn y Cefn. Dechreuodd y gwaith yn ystod yr haf ar y 277 o dai ar hen safle Ysgol Gyfun a Choleg Glynebwy. Mae’r datblygiadau wedi gwella effeithiolrwydd ynni i helpu tlodi tanwydd tactegol a chynyddu’r tai cymdeithasol sydd ar gael.

Mae cyflogaeth a sgiliau yn dangos fod Anelu’n Uchaf Blaenau Gwent a Rhaglen Prentisiaeth Merthyr yn anadlu bywyd newydd i weithgynhyrchu uwch ar draws y rhanbarth. Enillodd Anelu’n Uchel Blaenau Gwent, yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru 2019 yng nghategori Cyflogwr Mawr y Flwyddyn, a chipio’r wobr eto yn y seremoni ym mis Mehefin 2021.

Y tro hwn roedd wrth ochr Merthyr Tudful a ymunodd â nhw yn ddiweddar. Yn adeiladu ar y llwyddiant hwn yw hen adeilad Monwell a gaiff ei ailddatblygu yn ganolfan sgiliau’r dyfodol gyda chyflwyno STEM yn cynyddu drwy gynigion llwyddiannus i Cymoedd Technoleg.

Mae busnesau newydd wedi cynyddu gan 6.7% ar y cyfnod hwn y llynedd gyda phortffolio diwydiannol y Cyngor â chyfradd defnydd o 85% yn cefnogi 615 o swyddi. Bydd unedau newydd a yn dod ar gael yn cynnig 26,000 tr sg ychwanegol.

Wrth edrych i’r dyfodol a nod y Cyngor i ddod yn sefydliad niwtral o ran carbon erbyn 2030, fe wnaeth y cyngor benodi datrysiad storio allanol StoraTera a BankEnergi yn ddiweddar. Mae hyn yn rhan o Her Arloesedd Ymchwil Busnes System Cyfan ar gyfer Datgarboneiddio i ddatblygu Datrysiadau Llwyfan Ynni Masnachol Diwydiannol Deallus i sicrhau canlyniadau net-sero. Bydd y cwmnïau yn peilota eu datrysiadau ym mharciau busnes y fwrdeistref dros y flwyddyn ddilynol. Mae trydan dŵr hefyd yn cael ei ymchwilio yn fanwl.

Mae gwaith yn mynd rhagddo i gynorthwyo gyda gwaith gostwng ôl-troed carbon y Cyngor i ddatblygu cynllun pontio ar gyfer y fflyd bresennol o gerbydau i opsiwn allyriadau carbon isel. Er ei fod ar gamau cynnar ei ddatblygiad, bydd hyn yn cynnwys cynlluniau ar gyfer mannau gwefru mewn lleoliadau allweddol i gysylltu gyda model gwaith y Cyngor ar gyfer y dyfodol. Mae’r adroddiad hefyd yn nodi y cafodd 73 o fannau gwefru cerbydau trydan ar draws 25 safle eu gosod ar gyfer y gymuned ac ymwelwyr i’w defnyddio, gyda chynlluniau yn eu lle ar gyfer mannau tacsi.

Bydd canol trefi Blaenau Gwent hefyd yn gweld gwelliannau yn y dyfodol fel rhan o raglen ‘Trawsnewid Trefi’ Llywodraeth Cymru. Mae cynlluniau creu lleoedd ar hyn o bryd ar gamau dechreuol ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws holl drefi Blaenau Gwent. Prif nod y prosiectau yw cynyddu defnydd busnes a datblygu amgylchedd sy’n denu pobl i dreulio mwy o amser yng nghanol trefi.

Mae ystadegau yn yr adroddiad eisoes yn dangos fod nifer yr ymwelwyr yn cynyddu wrth i ni ddod allan o’r pandemig gyda chyfanswm o 864,612 o bobl yn ymweld â threfi, sy’n gadarnhaol iawn ar gyfer y dyfodol.
Cafodd Cynllun Rheoli Cyrchfan ar y cyd ar gyfer 2020-25 ei gwblhau sy’n cyflwyno gweledigaeth gyda ffocws ar ymwelwyr i ddatblygu ffordd ymlaen ar gyfer twristiaeth yn yr ardal. Bydd gwaith cyfredol tebyg i ddolen rheilffordd Abertyleri a gwneud Ffordd Blaenau’r Cymoedd yn heol ddeuol i gyd yn helpu i wella cysylltedd ar gyfer ymwelwyr.

Mae cynlluniau’n mynd rhagddynt sy’n cysylltu’r hybiau trafnidiaeth allweddol hyn gyda llwybrau cerdded a seiclo sy’n rhoi llwybrau gyda golygfeydd da ledled yr ardal.

Dywedodd y Cynghorydd Dai Davies, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd:

“Mae’r adroddiad hwn yn newyddion rhagorol gan fod adfywio Blaenau Gwent yn parhau’n brif flaenoriaeth i Gyngor Blaenau Gwent. Mae ymgysylltu  gyda’n cymunedau i ddatblygu canol trefi yn eu rhoi yng nghanol cynlluniau adfywio y Fwrdeistref. Bu bwydo eu sylwadau a gwybodaeth leol i’r cynllun gweithredu yn hanfodol i lwyddiant.

Rwy’n falch fod datbygiad ein prosbectws tai yn parhau gan y bydd yn creu swyddi a helpu i ddenu pobl i’r ardal sy’n newydd ar gyfer yr economi a hefyd gymunedau. Yn ychwanegol, rydym yn darparu canolfannau hyfforddi a chyfleoedd prentisiaeth ar gyfer ein pobl ifanc i roi’r sgiliau iddynt ddechrau busnes a chael swyddi.

Mae’n  galonogol iawn ein bod eisoes wedi dechrau ar y daith i ostwng ein ôl-troed carbon. Er ar y camau dechreuol, mae’n hanfodol ein bod yn parhau i fod â ffocws ar gyfer 2030 o fod yn niwtral o ran carbon.”