Cyngor yn cytuno ar y Gyllideb ar gyfer 2021-22

Cafodd cyllideb a lefel Treth Gyngor Blaenau Gwent ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22 eu cymeradwyo gan y Cyngor heddiw (4 Mawrth 2021).

Derbyniodd Blaenau Gwent setliad cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol fydd yn gweld ei gyllideb yn cynyddu gan 3.6% ar gyfer 2021-22 ac mae hyn wedi rhoi £4.2 miliwn ychwanegol i’r cyngor mewn cyllid uwchben amcangyfrifon dechreuol y gyllideb. Mae hyn a’r ffocws ar gyfres o brosiectau a dargedwyd i gryfhau dyfodol ariannol y Cyngor wedi rhoi cyllideb gytbwys i gynghorwyr ei chymeradwyo, heb unrhyw doriadau i wasanaethau rheng-flaen.

Mae’r Cyngor yn deall gwerth y gwasanaethau y mae’n eu darparu ar gyfer preswylwyr lleol ac mae hyn yn sefyllfa a gaiff ei chroesawu ar gyfer y flwyddyn nesaf i sicrhau adferiad o effaith ddigynsail coronafeirws.
Bydd gyllideb a gytunwyd yn gweld y gyngor yn:

• Diogelu gwasanaethau rheng-flaen ychwanegol
• Darparu cyllid ychwanegol o 3.6% i bob ysgol ym Mlaenau Gwent
• Cyllido galw cynyddol a phwysau gwasanaeth mewn meysydd allweddol sy’n bwysig i breswylwyr ac a gadarnhawyd yn defnyddio’r adborth o’n harolwg cyllideb diweddar yn cynnwys:

- cynyddu cyllid ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol o £1,014,490 (+2.2%)
- buddsoddiad ychwanegol mewn prosiectau amgylcheddol o  - £683,480 (+4.1%)
- cyllideb cynllun gostwng Treth Gyngor ar £9.6m

• Galluogi buddsoddiad newydd gyda ffocws ar y gymuned yn cynnwys hybiau newydd mewn llyfrgelloedd i roi mynediad i breswylwyr i wasanaethau cyngor
• Creu arbedion a chydnerthedd ariannol ar gyfer y dyfodol drwy barhau gyda rhaglen ‘Pontio’r Bwlch’.

Cymeradwywyd cynnydd o 3.3% ar gyfer elfen Blaenau Gwent o’r Dreth Gyngor – mae hyn yn gyfwerth â chynnydd o 72c yr wythnos ar gyfer eiddo Band A a chynnydd o 84c yr wythnos ar gyfer aelwydydd Band B. Oherwydd nifer uchel yr eiddo yn y bandiau eiddo is hyn (85%), mae lefel y Dreth Gyngor y mae pobl yn ei dalu yn un o’r isaf yng Nghymru ar gyfartaledd.

Disgwylir i’r cynnydd yn lefel y Dreth Gyngor i fod yr isaf yng Ngwent a 0.6% yn is na’r lefel a gytunwyd yn 2020-21.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Daniels, Arweinydd y Cyngor:

“Rwy’n credu fod y Gyllideb a gymeradwywyd heddiw yn un deg a chytbwys. Mae’r setliad cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf yn newyddion i’w groesawu ar ddiwedd yr hyn a allai fod ein blwyddyn mwyaf heriol erioed. Fel Cyngor mae ein ffocws wedi fod ar flaengynllunio dros yr ychydig flynyddoedd ddiwethaf ac rwy’n falch ein bod wedi medru cyflwyno cyfres o gynigion na fydd yn gweld unrhyw newidiadau mawr mewn gwasanaethau wrth i ni ganolbwyntio ar ein blaenoriaethau allweddol.
Mae’r gyllideb yn diogelu gwasanaethau hanfodol ac yn ein helpu i gynllunio ar gyfer dyfodol cynaliadwy wrth i ni gael adferiad o ofynion trin Covid-19.

Hoffwn ddiolch i bawb a ymatebodd i’r arolwg y gwnaethom ei gynnal fel rhan o broses gosod y gyllideb. Rydym wedi gwrando ar eich sylwadau ar ein blaenoriaethau gwariant ac wedi ceisio cadw lefel y Dreth Gyngor mor isel ag sydd modd yn y cyfnod ansicr hwn. Rwy’n arbennig o falch i ni fedru cadw’r cynnydd yn is nag yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

Mae cyllideb 2021/22 yn arddangos ein hymrwymiad i ddiogelu a gwella gwasanaethau ar holl breswylwyr Blaenau Gwent yn y tymor byr ond hefyd adeiladu cydnerthedd ariannol ar gyfer y gofynion y bydd llywodraeth leol yn ddi-os yn eu hwynebu ym mlynyddoedd y dyfodol.”