Cyngor Bwrdeistref Blaenau Gwent yn gwella’r broses o brynu eiddo yn yr ardal

O heddiw, mae prynu eiddo yng Nghyngor Bwrdeistref Blaenau Gwent wedi dod yn gyflymach ac yn symlach i bawb.

Fel rhan o’n trawsnewid digidol, rydym wedi gweithio gyda Chofrestrfa Tir EF i drosglwyddo’n gwasanaeth pridiannau tir lleol i’w chofrestr ddigidol genedlaethol. Mae’r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol yn caniatáu i ddefnyddwyr chwilio gwybodaeth ar-lein ar unwaith, gan alluogi i benderfyniadau prynu gael eu gwneud yn gynharach yn y broses drawsgludo.

Cyfyngiadau neu waharddiadau ar ddefnyddio eiddo neu dir, megis caniatâd cynllunio neu statws adeilad rhestredig, yw’r rhan fwyaf o bridiannau tir lleol. Bydd chwilio’r gofrestr genedlaethol yn datgelu a yw eiddo’n ddarostyngedig i bridiant ac yn galluogi’r prynwr i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth am y pryniant.

Mae trawsnewid Cyngor Bwrdeistref Blaenau Gwent yn gwella’r broses o brynu eiddo yn yr ardal yn cefnogi blaenoriaethau ehangach y llywodraeth i wneud trafodion eiddo’n gyflymach, yn symlach ac yn rhatach. Gall unrhyw un ddefnyddio gwasanaeth Chwilio am bridiannau tir lleol y gofrestr. Gall cwsmeriaid busnes ei ddefnyddio hefyd trwy eu cyfrif porthol neu Business Gateway.

Gall defnyddwyr y gofrestr genedlaethol lawrlwytho chwiliad personol am ddim neu brynu chwiliad swyddogol am £15. Bydd hyn yn caniatáu chwiliadau ailadroddus diderfyn am chwe mis. Darperir yr holl wybodaeth mewn fformat safonol hawdd ei ddarllen, gyda mapiau geo-ofodol.

Pan fydd pob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr yn trosglwyddo eu gwasanaeth pridiannau tir lleol i’r gofrestr genedlaethol, bydd yn cynnwys dros 25 miliwn o bridiannau. Bydd defnyddwyr data yn ei chael hi’n haws chwilio, uno ac ystyried y wybodaeth, tra bydd entrepreneuriaid ac arloeswyr yn gallu datblygu atebion cymdeithasol ac economaidd newydd sydd o fudd i economi ehangach y DU.

Rydym yn falch o fod ymhlith mabwysiadwyr cynnar y gofrestr newydd, sy’n galluogi’n cwsmeriaid i elwa ar wasanaeth tryloyw, hawdd ei ddefnyddio. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.