Cyngor Blaenau Gwent yn ystyried Ymateb Teithio'r Dyfodol i greu opsiynau teithio lleol tecach, gwyrddach a gwell

Mae ymateb teithio’r dyfodol ar gyfer Blaenau Gwent wedi cael ei ystyried a'i gefnogi gan Bwyllgor Craffu Datblygu Economaidd a Rheoli Amgylcheddol y Cyngor.

Mae'r ymateb wedi'i ddatblygu mewn ymateb i'r Fforwm Dinasyddion ar Ddyfodol Teithio a ddaeth â thrigolion lleol, yn cynrychioli poblogaeth amrywiol y fwrdeistref, at ei gilydd i drafod sut y gellir gwneud teithio lleol yn decach, yn wyrddach ac yn well i bawb.

Dros dridiau, datblygodd aelodau'r fforwm 10 argymhelliad ar gyfer sut y gall y cyngor, ei bartneriaid a'i drigolion wella teithio yn yr ardal dros y pum mlynedd nesaf. Mae'r ymateb cychwynnol hwn yn amlinellu camau y gall y Cyngor eu dilyn wrth symud ymlaen â'r argymhellion, gyda fersiynau’r dyfodol hefyd yn cynnwys diweddariadau gan bartneriaid.  Mae'r ymateb yn canolbwyntio ar weithredoedd lleol ond hefyd yn cydnabod yr angen i eirioli dros newid ar lefel ranbarthol a chenedlaethol. Mae Grŵp Teithio newydd, sy'n cynnwys ystod o bartneriaid allweddol, yn cael ei sefydlu i gydlynu hyn.  

Mae hwn yn ymateb 'byw', gyda diweddariadau bob chwe mis am o leiaf y ddwy flynedd nesaf i sicrhau cynnydd a thryloywder parhaus.

Mae'r dull hwn yn cyd-fynd ag amcan Cynllun Corfforaethol y cyngor i 'Ymateb i'r argyfwng natur a hinsawdd a galluogi cymunedau cysylltiedig.'  Mae hefyd yn adlewyrchu dull gweithredu newydd Bargen Blaenau Gwent, gan weithio'n agos gyda thrigolion a phartneriaid i ddylunio a chyflawni camau gweithredu sy'n gwella lles.

Dywedodd y Cynghorydd Tommy Smith, Dirprwy Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Amgylcheddol

"Rydym yn ymrwymedig i weithio'n agos gyda chymunedau a rhanddeiliaid i greu dyfodol mwy cynaliadwy a chysylltiedig i Flaenau Gwent, ac fel Cyngor Marmot, rydym am greu a datblygu lleoedd a chymunedau cynaliadwy. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gwella opsiynau teithio lleol i fynd i'r afael â phroblemau fel ynysu cymdeithasol a mynediad cyfyngedig at swyddi a gwasanaethau. Rydym hefyd yn cydnabod nad yw’r holl atebion gennym ni, a bydd ein dull newydd o weithio gyda chymunedau, gwirfoddolwyr a phartneriaid drwy fargen newydd Blaenau Gwent yn allweddol i hyn.

"Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y Fforwm Dinasyddion ar Deithio am roi gwybodaeth amhrisiadwy i ni am yr hyn sydd ei angen ar ein trigolion ni a beth maen nhw ei eisiau wrth deithio’n lleol."

Bydd yr ymateb nawr yn cael ei anfon i'w gymeradwyo i'r cabinet.

Y 10 argymhelliad oedd:

  • Lleihau'r defnydd o geir ar gyfer cymudo
  • Cael rampiau cadair olwyn ar drenau bob amser
  • Cynnwys y cyhoedd yn well wrth gynllunio trafnidiaeth
  • Ystyried trosglwyddo bysiau yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus
  • Gwella gwasanaethau tacsi
  • Cynyddu cyhoeddusrwydd, capasiti a chyllid bysiau Fflecsi
  • Hyrwyddo ac ehangu cynlluniau trafnidiaeth gymunedol
  • Cynyddu opsiynau trafnidiaeth gyda'r nos
  • Cynnig opsiynau gwell ar gyfer teithiau ysgol
  • Annog pobl i gerdded, beicio neu olwyno

Darganfyddwch fwy am y Fforwm Dinasyddion ar Deithio yma: https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/preswylwyr/newid-yn-yr-hinsawdd/dyfodol-teithio-ym-mlaenau-gwent-fforwm-dinasyddion/