Bydd Cynghorwyr ym Mlaenau Gwent yn ystyried cynigion ar gyfer cyllideb ddrafft 2026/27 yr wythnos nesaf mewn Pwyllgor Craffu Llywodraethu Corfforaethol ac Adnoddau arbennig.
Gweithiodd Cynghorwyr o'r grwpiau Llafur ac Annibynnol gyda'i gilydd i ystyried cyllideb ddrafft sy'n diogelu gwasanaethau gan argymell cynnydd o 3.75% yn y Dreth Gyngor, sy'n is na'r rhagdybiaeth gynllunio wreiddiol o 4.95% ac sydd wedi bod yn bosibl o ganlyniad i setliad cyllid gwell gan Lywodraeth Cymru ac arbedion effeithlonrwydd, ynghyd ag adborth gan drigolion a chonsensws ymhlith yr arweinwyr i gadw unrhyw gynnydd mor isel â phosibl.
Bydd y gyllideb arfaethedig yn gweld y Cyngor yn parhau i fuddsoddi yn y gwasanaethau sy'n bwysig i bobl leol ac yn amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn ei gymunedau. Bydd y gyllideb refeniw hon ochr yn ochr â'r rhaglen gyfalaf y cytunwyd arni yn cynyddu buddsoddiad yn ein hysgolion, ein gwasanaethau amgylcheddol a’n priffyrdd.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Steve Thomas:
"Gan weithio'n adeiladol gyda'r Grŵp Annibynnol, rydym wedi cyflwyno cyllideb deg a chytbwys sy'n diogelu gwasanaethau hanfodol tra'n cadw'r Dreth Gyngor mor isel â phosibl mewn hinsawdd ariannol anodd iawn. Mae'r cynnydd arfaethedig o 3.75% yn is na'r ffigur Treth Gyngor drafft o 4.95% ac mae'n debygol o fod gyda’r cynnydd canrannol isaf yng Nghymru. Mae'n adlewyrchu gwelliant yn y cyllid gan Lywodraeth Cymru, arbedion effeithlonrwydd ac, yn bwysig, gwrando ar adborth gan bobl leol.
"Gyda dros ddwy ran o dair o'n cyllideb eisoes wedi’i hymrwymo i addysg a gofal cymdeithasol, mae ein ffocws yn parhau i fod ar ddiogelu'r gwasanaethau y mae trigolion yn dibynnu arnynt fwyaf, gan ddefnyddio adnoddau'n ddoeth, a gweithio'n wahanol gyda'n cymunedau i gefnogi gwytnwch a lleihau pwysau yn y tymor hwy."
Dywedodd Arweinydd y Grŵp Annibynnol, y Cynghorydd Wayne Hodgins:
"Mae'r gyllideb ddrafft hon yn dangos beth y gellir ei gyflawni pan fydd cynghorwyr yn gweithio gyda'i gilydd yn adeiladol i gyflwyno cyllideb gyfrifol sy'n canolbwyntio ar y materion sydd bwysicaf i'n trigolion. Rydym wedi cefnogi cynigion sy'n diogelu gwasanaethau rheng flaen, yn cynyddu buddsoddiad mewn ysgolion a phriffyrdd, ac yn darparu cymorth wedi'i dargedu i'r rhai sydd ei angen fwyaf, yn enwedig trwy'r Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor.
"Byddai'r arbedion effeithlonrwydd a nodwyd yn helpu i sicrhau bod y Cyngor yn byw o fewn ei incwm tra'n parhau i fuddsoddi yn ein cymunedau. Mewn hinsawdd ariannol heriol, rydym wedi pwyso a mesur popeth ac wedi ystyried cyllideb ddrafft gyfrifol a chytbwys sy'n rhoi trigolion yn gyntaf."
Mae'r uchafbwyntiau yn cynnwys:
- Gwasanaethau rheng flaen wedi'u diogelu, dim toriadau i wasanaethau
- £3 miliwn o arbedion effeithlonrwydd arfaethedig, wedi'i gyflawni drwy'r rhaglen Pontio'r Bwlch a gweithio'n agosach gyda Chyngor Torfaen
- Cynnydd o 10% mewn cyllid ysgolion
- £10 miliwn ar gyfer y Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, gan gefnogi'r aelwydydd hynny sydd fwyaf mewn angen
Byddai'r cynnydd yn y Dreth Gyngor yn cyfateb i gynnydd o 97c yr wythnos i'r rhai mewn eiddo Band A a £1.13c ar gyfer eiddo band B, sy'n cwmpasu'r mwyafrif o eiddo'r fwrdeistref.
Yn dilyn Craffu, bydd y gyllideb yn mynd i'r Cyngor Llawn i'w chymeradwyo ym mis Mawrth.
I weld adroddiad y gyllideb cliciwch yma.
