Cyngor Blaenau Gwent yn cymryd mwy o gamau cadarnhaol ar Ddatgarboneiddio

Croesawodd cyfarfod heddiw o’r Pwyllgor Craffu Adfywio adroddiad yn amlinellu cynnydd ar nifer o brosiectau fel rhan o’r strategaeth ar ddatgarboneiddio

Adroddiadau Sero Net Llywodraeth Cymru
Dengys y data diweddaraf a gyflwynwyd fel rhan o ddull Sero Net diwygiedig Llywodraeth Cymru y gwelodd y Cyngor ostyngiad o 3,292 tunnell o CO2 yn ein ôl-troed carbon, sy’n gyfystyr â 6%. Mae hyn yn dangos cynnydd da ar ein Cynllun Datgarboneiddio 2020 i 2030 wrth i ni anelu gwneud ein cyfraniad llawn i’r uchelgais o sector cyhoeddus net sero yng Nghymru erbyn 2030.

Ymateb fel Cyngor i Gynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent
Mae’r Cyngor yn gyffredinol yn cefnogi 5 prif argymhelliad y Cynulliad ond hefyd yn nodi y 19 argymhelliad arall, gyda llawer ohonynt wedi eu cefnogi gan fwyafrif sylweddol. Mae’r rhain yn cynnwys amrywiaeth o faterion eraill sy’n bwysig iawn i breswylwyr ac maent yn sail bwysig ar gyfer datblygu camau gweithredu ar yr hinsawdd yn y dyfodol, na ddylid eu colli.

Daw’r ymateb i ben drwy nodi fod y cyngor yn awyddus fod aelodau’r Cynulliad Hinsawdd a phreswylwyr yn ehangach yn parhau i fod â rhan wrth ddatblygu’r camau gweithredu hynny ac ymateb i newid hinsawdd, drwy edrych ar geisio cyfranogiad aelodau’r Cynulliad Hinsawdd yn y dyfodol.

Cynnydd pellach ar gynllun Datgarboneiddio
Yn dilyn y cynnydd a wnaed ar drafnidiaeth, mae’r Cyngor wedi troi ei sylw at drydan, gwresogi a chaffael (gweithiau) sydd gyda’i gilydd yn ffurfio 22% o’n allyriadau carbon gros.

Cytunwyd ar y camau gweithredu lefel uchel dilynol i ostwng defnydd ac allyriadau ynni:
• Datblygu cynllun ar gyfer newid systemau gwresogi presennol ac ôl-osod cysylltiedig mewn adeiladau gydag amgennau carbon sero erbyn 2030.
• Adolygu’r polisi ynni presennol i sicrhau fod y gostyngiad yn y galw am ynni yn gydnaws gydag ymrwymiad carbon sero y Cyngor.
• Ymrwymiad i ddefnyddio data carbon (safonau ynni a chostau cylch oes) i lywio penderfyniadau caffael.
• Adolygu strategaeth a threfniadau caffael i fod yn gydnaws gydag ymrwymiad carbon sero y Cyngor.
• Datblygu cynllun a thargedau ar gyfer gostwng ynni yn y dyfodol yn cynnwys cyrraedd 100% goleuadau stryd LED erbyn 2030 fan bellaf.
• Trydan sero carbon. Datblygu cynllun a thargedau ar gyfer sicrhau fod y Cyngor yn cynyddu ei ddefnydd o ynni adnewyddadwy i’r eithaf, drwy osod ynni adnewyddadwy a thrwy gaffael.
• Rhwydweithiau gwresogi ardal. Adolygu p’un a yw datblygiadau mewn technoleg yn caniatáu rhwydweithiau ychwanegol ym Mlaenau Gwent.
• Ymrwymo y caiff pob adeilad newydd ei godi i safonau sero net.
• Ymrwymo i roi ystyriaeth i gostau carbon (yr allyriadau’n gysylltiedig gyda gwneud gwaith) wrth gaffael gwaith adeiladu a chynnal a chadw, yn cynnwys gosod safonau carbon priodol.

Dywedodd y Cyng Dai Davies, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd Cyngor Blaenau Gwent:
“Rwy’n falch iawn fod yr adroddiad hwn yn dangos gwaith rhagorol y Cyngor wrth hybu ei ‘Gynllun Datgarboneiddio’. Rwy’n hollol sicr fod y Cynllun hwn yn un o’r darnau pwysicaf o waith i’r Cyngor ac rydym wedi cytuno ar gyfeiriad clir iawn ar gyfer y ffordd ymlaen a sut y byddwn yn gweithio i gyflawni ein huchelgais i ddod yn sefydliad niwtral o ran carbon. Mae’n dda gweld ein ôl-troed carbon yn gostwng eleni ac mae cynlluniau yn eu lle i ostwng ein defnydd ac allyriadau ynni yn y dyfodol.

“Mae hyn yn fater byd-eang ac mae’n hollol hanfodol ein bod yn gweithredu nawr i ddiogelu ein hamgylchedd er lles cenedlaethau’r dyfodol ac mae’n rhaid i’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol a’n penderfyniadau adlewyrchu hyn.”