Cyngor Blaenau Gwent yn cefnogi Cynllun Creu Lleoedd trawsnewidiol ar gyfer Glynebwy

Cefnogodd Pwyllgor Gweithredol y Cyngor gynllun eang gyda’r potensial i drawsnewid Glynebwy.

Cafodd Cynllun Creu Lleoedd ei baratoi ar gyfer Glynebwy gan Gyngor Blaenau Gwent a Llywodraeth Cymru fel rhan o’r rhaglen Trawsnewid Trefi. Mae hyn yn nodi’r uchelgeisiau craidd ar gyfer tref Glynebwy sy’n sylfaen i’r weledigaeth – Glynebwy yn dref glyfar, gydnerth a chynaliadwy sy’n lle gwych i weithio ynddi, cael busnes ynddi, byw ynddi ac ymweld â hi. Mae’n gosod cyfeiriad chlir a chanllaw ar gyfer cynllunio’r dref yn y dyfodol i ddenu buddsoddiad a llunio datblygiad cynaliadwy yn y dyfodol a gwella lleoedd.

Cynhaliwyd ymgysylltu cynhwysfawr wrth baratoi‘r cynllun er mwyn creu Cynllun Creu Lleoedd sy’n cyfleu cymeriad neilltuol Glynebwy ac arbenigedd y bobl sy’n byw a gweithio yn y dref. Roedd hyn er mwyn sefydlu sut mae’r dref yn gweithio, beth yw’r uchelgeisiau allweddol ar ei chyfer a pha fath o ymyriadau a newid yr hoffai pobl eu gweld.

Dywedodd y Cynghorydd Dai Davies, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd:

"Mae hwn yn brosiect cyffrous a ddaw â gwelliannau fydd yn para’n hir i Lynebwy a fydd yn fanteisiol i fusnesau lleol a hefyd yn helpu i ddod ag ymwelwyr i’r dref. Bydd y Cynllun Creu Lle yn ategu asedau unigryw Glynebwy gyda lleoedd cyhoeddus deniadol. Mae hefyd gyfle i wrthdroi’r tueddiad cenedlaethol o ddirywiad yn y stryd fawr a thrawsnewid Glynebwy yn gyrchfan amrywiol gyda chanol tref lewyrchus.. Dyma’r cyntaf o nifer o gynlluniau sydd ar y gweili ar gyfer y fwrdeistref a’r cam nesaf fydd paratoi cynllun cyflenwi a gweld y prosiectau yn dod i ffrwyth.”

Mae’r Cynllun Creu Lleoedd yn cynnwys canol y dref, ardal ogleddol y Gweithfeydd, Parc Eugene Cross a’r Ganolfan Ddinesig. Dynodwyd chwech uchelgais greiddiol yn y cynllun i’n cefnogi i drawsnewid y dref a chyflawni ein gweledigaeth, sef:

• Sefydlu’r stryd fawr fel ‘mainc arbrofi’ ar gyfer busnesau newydd ac entrepreneuriaid, ond hefyd feithrin amgylchedd twf ar gyfer busnesau presennol.
• Creu cyfres o fynedfeydd newydd i ganol y dref sy’n agor y stryd fawr, gwella’r amgylchedd manwerthu, glasu canol y dref a chreu gofod ar gyfer cartrefi newydd, gofodau gwaith a defnyddiau hamdden.
• Adfywio’r cysylltiadau rhwng canol y dref a’r Gweithfeydd i roi mwy o ddewis, dibynadwyedd ac ansawdd i gerddwyr a seiclwyr.
• Trawsnewid y Gweithfeydd yn gyrchfan fywiog ac egnïol; man cyrraedd, diwylliant, dysgu, gweithio a byw.
• Sefydlu Parc Eugene Cross fel cyrchfan chwaraeon o fri rhanbarthol sy’n darparu ar gyfer timau arbenigol, elite a chymunedol a gwella’r cysylltiadau gyda chanol y dref a’r Gweithfeydd.
• Trawsnewid safle’r Ganolfan Ddinesig a’r ardal o amgylch i fod yn batrwm o gymdogaeth o gartrefi modern mewn gosodiad cynaliadwy gwyrdd.