Cyngor ar gyfer y Fasnach Tacsi

Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) a Chyfarpar Glanhau

I’ch helpu i gadw eich hun a’ch teithwyr yn ddiogel, gall gyrrwyr hawlio becyn PPE a chyfarpar glanhau am ddim (gan gynnwys danfoniad am ddim), a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r pecyn yn cynnwys:

  • 5 litr o hylif diheintio at bob diben
  • 1 potel chwistrellu
  • 6 hylif diheintio dwylo sy’n ewynnu (500ml yr un)
  • 2 becyn o glytiau wedi’u plygu (50 ym mhob pecyn)
  • 2 gorchudd wyneb safon meddygol y gellir eu golchi
  • 1 bocs o orchyddion wyneb untro
  • 6 phecyn o glytiau Detox (80 ym mhob pecyn)

I hawlio eich pecyn, bydd angen ichi gyflwyno cais drwy wefan Lyreco. Pan fyddwch yn cyflwyno cais, bydd angen ichi ddarparu eich manylion personol gan gynnwys rhif eich trwydded gyrru cerbyd hacni/cerbyd hurio preifat, eich awdurdod trwyddedu, eich manylion cyswllt ac unhyrw gyfarwyddiadau danfon.
Noder mai dim ond un pecyn y bydd pob unigolyn yn ei gael.

Rhaid cyflwyno cais erbyn 5 Mawrth 2021.

https://gov.wales/written-statement-free-ppe-taxi-and-phv-drivers-wales

Dolen i Covid19 - Gwybodaeth Tacsi