Cynghorwyr yn cefnogi cynllun i ddatblygu gofal preswyl ym Mlaenau Gwent

Mae aelodau o Bwyllgor Craffu Pobl Cyngor Blaenau Gwent heddiw wedi cymeradwyo llunio cynllun busnes i wneud cais am gyllid i sefydlu darpariaeth breswyl ar gyfer plant sy’n derbyn gofal o fewn y fwrdeistref sirol.

Ar hyn o bryd mae’r Awdurdod Lleol yn dibynnu ar ofal preswyl drwy awdurdodau lleol cyfagos os oes lleoedd ar gael, ond yn bennaf drwy ddarparwyr preifat. Mae hyn yn golygu y gall lleoliadau fod tu allan i’r sir a mynd â phobl ifanc i ffwrdd oddi wrth eu teuluoedd, ysgolion a rhwydweithiau cymdeithasol.

Yn ei Rhaglen Lywodraethu, gwnaeth Gweinidogion Cymru ymrwymiad i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal erbyn diwedd tymor hwn y Senedd’. I helpu gyda hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu’r Gronfa Cyfalaf Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Ailgydbwyso Cyfalaf a ddefnyddir i fuddsoddi mewn cartrefi preswyl awdurdodau lleol i sicrhau y gallant  ddiwallu anghenion mwy cymhleth unigolion yn nes at eu cartrefi.

Byddai cais llwyddiannus i’r gronfa yn rhoi’r arian i Blaenau Gwent i brynu eiddo addas o fewn y fwrdeistref gyda’r diben o’i newid i ddarparu gofal diogel ac ansawdd uchel ar gyfer plant lleol. Byddai’r safle yn cael ei reoli mewn partneriaeth gydag awdurdod lleol cyfagos neu’r trydydd sector.

Dywedodd y Cynghorydd Haydn Trollope, Aelod Gweithrediaeth Pobl a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Rwy’n falch fod aelodau o’r Pwyllgor Craffu heddiw wedi cefnogi’r adroddiad pwysig hwn ac wedi cytuno, pe medrwn sicrhau cyllid, mai dyma’r ffordd orau ymlaen ar gyfer ein plant sy’n derbyn gofal a phobl ifanc yma ym Mlaenau Gwent.”

Aiff yr adroddiad yn awr i’r Pwyllgor Gweithrediaeth i gael penderfyniad terfynol