Cymru’n symud i lefel rhybudd sero

Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn annog pawb i barhau i helpu i atal lledaeniad y coronafeirws wrth iddo gadarnhau y bydd Cymru’n symud i’r lefel rhybudd sero newydd ddydd Sadwrn [7 Awst].

Ar lefel rhybudd sero, bydd yr holl gyfyngiadau ar gwrdd ag eraill yn cael eu codi a bydd modd i bob busnes agor. Er hynny, bydd rhai mesurau diogelwch pwysig yn parhau i fod ar waith i roi’r hyder i bawb fwynhau’r haf eleni.

Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Rhaid i bawb barhau i hunanynysu am 10 diwrnod os oes ganddynt symptomau Covid-19 neu os ydynt yn cael canlyniad prawf positif.
  • Bydd gorchuddion wyneb yn ofynnol o hyd yn y rhan fwyaf o fannau cyhoeddus o dan do yng Nghymru, gan gynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn siopau ac mewn lleoliadau gofal iechyd. Bydd pobl na all eu gwisgo yn parhau i gael eu heithrio o’r gofyniad hwn.
  • Rhaid i bawb sy’n gyfrifol am leoliadau sydd ar agor i’r cyhoedd a gweithleoedd gynnal asesiad risg Covid a pharhau i gymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws.  

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Mae symud i lefel rhybudd sero yn gam pwysig arall ymlaen inni i gyd. Am y tro cyntaf ers dechrau’r pandemig, bydd pob busnes yn gallu agor a bydd yr holl gyfyngiadau cyfreithiol ar gwrdd â phobl mewn lleoedd preifat o dan do yn cael eu dileu.

“Nid yw lefel rhybudd sero yn golygu diwedd y cyfyngiadau na rhyddid i bawb wneud fel y mynnant. Ond mae’n golygu y gallwn ni i gyd fwynhau mwy o ryddid gyda’r hyder bod mesurau diogelwch pwysig ar waith o hyd i sicrhau bod iechyd y cyhoedd yn cael ei ddiogelu pan fyddwn yn mynd allan.

“Yn anffodus, nid yw’r pandemig drosodd eto ac mae angen inni weithio gyda’n gilydd i wneud popeth y gallwn ni i gadw’r feirws hwn o dan reolaeth – ar lefel rhybudd sero, bydd popeth yr ydyn ni’n ei wneud yn cael effaith ar y feirws hwn.

“Hyd yn oed os ydych wedi’ch brechu’n llawn, mae’n fwy diogel cwrdd tu allan na thu mewn. Cofiwch adael awyr iach i mewn i fannau o dan do, cael prawf hyd yn oed ar gyfer symptomau ysgafn, a hunanynysu pan fo’n ofynnol ichi wneud hynny.

“Fe ddylen ni barhau i gadw ein pellter pan fyddwn allan a gweithio gartref os yw’n bosib. Fe ddylen ni hefyd barhau i wisgo masg wyneb, yn enwedig mewn mannau prysur, ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn siopau ac mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.

“Mae cymryd cyfrifoldeb a gweithio gyda’n gilydd yn golygu y gallwn ni i gyd wneud y pethau yr ydyn ni wedi’u methu fwyaf. Mae gan bawb ei reswm i ddiogelu Cymru.”

Bydd Cymru’n symud i lefel rhybudd sero am 6am ar 7 Awst, yn dilyn yr adolygiad diweddaraf o’r cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru. Ar lefel rhybudd sero:

  • Ni fydd unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol ar nifer y bobl y cewch gwrdd â nhw, gan gynnwys mewn cartrefi preifat, mannau cyhoeddus a digwyddiadau.
  • Bydd busnesau a oedd yn gorfod bod ar gau yn cael ailagor, gan gynnwys clybiau nos.
  • Bydd gan leoliadau sydd ar agor i’r cyhoedd a gweithleoedd fwy o hyblygrwydd o ran pa fesurau rhesymol i’w cymryd i leihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws. Ond dylai’r rhain gael eu teilwra i’w hasesiad risg a’u hamgylchiadau penodol.
  • Ni fydd gorchuddion wyneb yn ofyniad cyfreithiol mewn lleoliadau lletygarwch lle mae bwyd a diod yn cael eu gweini. Er hynny, byddant yn parhau i fod yn ofynnol yn y rhan fwyaf o fannau cyhoeddus o dan do.

Hefyd ar 7 Awst (o 00.01 ymlaen), ni fydd oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn, na phlant a phobl ifanc o dan 18 oed, yn gorfod hunanynysu mwyach os cânt eu nodi fel cysylltiadau agos â rhywun sydd â’r coronafeirws.