Cymorth Costau Byw yn helpu preswylwyr Blaenau Gwent

Cyngor Blaenau Gwent yn parhau i roi cyngor a chymorth i breswylwyr sy’n cael trafferthion gyda Chostau Byw

Bu grŵp gorchwyl yn cydweithio am dros flwyddyn i sicrhau dull gweithredu cydlynus gyda’n partneriaid i gefnogi pobl, gyda ffocws ar y pum prif faes: Tai; Bwyd; Tanwydd; Cymorth Ariannol a Chymorth Cyffredinol.

Mae hyn wedi cynnwys:

  • Cynhyrchu llyfryn gwybodaeth cynhwysfawr a thudalen gwefan yn llawn gwybodaeth am gynlluniau cymorth oedd ar gael a sut i gael mynediad iddynt. Cafodd hyn ei ddiweddaru’n rheolaidd i cynnig y cyngor diweddaraf.
  • Gweithio i weinyddu cynlluniau cymorth Llywodraeth Cymru yn lleol, tebyg i Gynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf a’r Cynllun Costau Byw. Mae’r Cyngor hefyd wedi defnyddio cyllid dewisol i’w gynnig i gartrefi taliad i gartrefi hyd at fand H y Dreth Gyngor a thaliad ychwanegol i gartrefi sy’n derbyn prydau ysgol am ddim.
  • Pleidleisio i ddefnyddio cyllid dewisol Llywodraeth Cymru i wneud cyfraniadau sylweddol i Fanc Bwyd Blaenau Gwent (£30,000), Cyngor ar Bopeth (£50,000) a grwpiau eraill sy’n dosbarthu bwyd yn lleol (£70,000)
  • Gwneud taliadau i rieni heb berthynas uniongyrchol gyda chyflenwr ynni
  • Helpu i drefnu a dosbarthu cyllid i Ganolfannau Cynnes
  • Cyhoeddi talebau banc tanwydd drwy’r Hybiau Cymunedol
  • Trefnu digwyddiad lle bu nifer dda yn bresennol gydag amrywiaeth o gyngor a chymorth ar gael i breswylwyr.

Mae’r Cyngor wrthi’n diweddaru ei wefan gyda’r wybodaeth ddiweddaraf ar ba gymorth sydd ar gael. Caiff hyn hefyd ei hysbysebu ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd y Cynghorydd Steve Thomas, Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent:

“Mae llawer o deuluoedd ym Mlaenau Gwent yn parhau i deimlo effeithiau costau llawer uwch ar gyfer tanwydd, nwyddau cartref a biliau eraill, yn arbennig ymysg ein teuluoedd mwyaf bregus. Mae gwneud yr hyn a fedrwn i gefnogi pobl yn un o’n prif flaenoriaethau. Mae ein gwefan yn cynnwys llawer o wybodaeth am y math o gymorth sy’n parhau i fod ar gael i bobl ac mae ein Hybiau Cymunedol yno bob amser ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno siarad wyneb yn wyneb gyda rhywun am yr anawsterau maent yn eu hwynebu.

 “Hoffwn ddatgan fy niolch i bawb sy’n parhau i weithio gyda’n cymunedau i roi help a chymorth yn ystod y cyfnod anodd hwn.”