Cymeradwyo cynlluniau ar gyfer Capel y Drindod, Abertyleri

Bydd Cyngor Blaenau Gwent yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth y Meysydd Glo, Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin a Llywodraeth Cymru i ddod â Chapel y Drindod, Abertyleri yn ôl i ddefnydd y gymuned yn dilyn cymeradwyaeth gan y Pwyllgor Gweithredol.

Mae Pwyllgor Gweithredol y Cyngor wedi cymeradwyo cais Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo am Drosglwyddo Ased Gymunedol ar gyfer Capel y Drindod a hefyd adeilad presennol Llyfrgell Abertyleri yn Stryd y Castell.

Defnyddir cyllid o raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru ar gyfer ailwampio tu fewn yr adeilad sydd mewn lleoliad amlwg yn y dref, gan ei droi’n gartref newydd ar gyfer Llyfrgell y dref a chyrsiau Addysg Oedolion; oriel gelf a hyb cefnogaeth yn cynnig cyngor ar gyflogaeth ac iechyd. Yn ogystal â hynny, bydd Undeb Credyd SmartMoneyCymru yn darparu gwasanaeth benthyciadau ariannol a chynilion wythnosol newydd o’r Hyb. Mae hefyd gynllun i osod peiriant arian ATM yn yr adeilad.

Caiff yr hen lyfrgell ei throi’n Ganolfan Hyfforddiant yn arbennig ar gyfer pobl ifanc, gan roi sgiliau iddynt i ddechrau busnesau a chael swyddi yn yr economi lleol. Yn ogystal bydd y Ganolfan Hyfforddiant yn cynnwys gwasanaeth swyddi a chyngor hyfforddiant a siop a chaffe cymunedol fydd hefyd yn gyfleuster hyfforddiant ac yn hyrwyddo bwyd iach a maeth.

Mae defnydd yr adeilad yn gydnaws â blaenoriaethau’r Cyngor wrth hyrwyddo iechyd a llesiant ac adeiladu cymunedau tecach a chynaliadwy drwy weithio gyda phobl leol i drin tlodi a chyflogaeth.

Cafodd tu allan Capel y Drindod ei ailwampio’n wreiddiol fel rhan o Raglen Cydgyfeiriad Ewropeaidd Abertyleri a Rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Dai Davies, Aelod Gweithredol Adfywio, Cyngor Blaenau Gwent:

“Rwy’n falch iawn i’r Pwyllgor Gweithredol gytuno’n unfrydol ar y cynlluniau hyn ar gyfer Capel y Drindod a’r Llyfrgell yn Abertyleri, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda phartneriaid i gyflwyno’r prosiect cymunedol cyffrous hwn.  Mae gennym ymroddiad llawn i greu cymunedau tecach yma ym Mlaenau Gwent drwy weithio gyda phartneriaid i ostwng tlodi a chreu cyfleoedd ar gyfer pobl leol, yn arbennig ein pobl iau i’w helpu i gael mynediad i hyfforddiant a sgiliau. Rydym eisiau helpu teuluoedd i gynyddu eu hincwm i’r eithaf a gwella eu sgiliau i wella rhagolygon economaidd y dyfodol iddyn nhw ac i Flaenau Gwent.

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Collins, Aelod Gweithredol Addysg, Cyngor Blaenau Gwent:

“Rydym yn ymroddedig i gyflawni ein Strategaeth Hamdden a Diwylliant 10-mlynedd newydd. Cafodd ei datblygu ar gyfer y fwrdeistref a rydym yn cydnabod yn llawn pa mor bwysig yw gwasanaethau llyfrgell a chyfleoedd Addysg Oedolion i’n preswylwyr. Mae llyfrgelloedd am gymaint mwy na dim ond llyfrau ac maent yn cynnig ystod o wasanaethau sy’n helpu i atal allgau digidol ac mewn rhai achosion gall atal pobl rhag dod yn unig ac ar wahân. Mae’n gyffrous gweithio gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin ac Ymddiriedolaeth Adfywio’r Glo yn Abertyleri i adeiladu ac ymestyn ar y gwasanaethau hyn.”

Dywedodd Alun Taylor, Pennaeth Gweithrediadau Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo yng Nghymru:

“Mae’r Ymddiriedolaeth yn ymroddedig i gynorthwyo gydag adfywio canol trefi yng nghymunedau y cyn feysydd glo fel Abertyleri. Bydd y prosiectau newydd hyn yn dangos sut y gall gweithio partneriaeth gyflawni’r uchelgais a rannwn i wneud trefi’r Cymoedd yn fannau egnïol a llewyrchus i fyw a gweithio ynddynt, creu gwasanaethau newydd ar y stryd fawr a helpu i greu hyfforddiant lleol a chyfleoedd swyddi lleol ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Phill Sykes, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin:

“Mae hyn yn ddatblygiad gwirioneddol wych i Abertyleri. Bydd lleoliad ar y stryd fawr yn ei gwneud yn fwy hwylus i’r gymuned gael adnoddau a chymorth i ddatblygu gwelliannau ar gyfer bywyd o ddydd i ddydd.”

Dywedodd Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:

“Bydd adfywio Capel y Drindod yn gwella llesiant a chyflogaeth yn y gymuned, cynyddu bywiogrwydd y dref a chreu cyfleoedd i bobl leol. Mae hyn yn enghraifft wych o sut y gellir defnyddio cymorth drwy ein rhaglen Trawsnewid Cartrefi i greu hyb lle gall pobl fynd i gael amrywiaeth o gyngor a chymorth, fydd o fudd i’r holl gymuned.”

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo yn 1999 mewn ymateb i argymhellion gan Dasglu Meysydd Glo y Llywodraeth. Cafodd ei sefydlu fel elusen annibynnol gyda ffocws ar gefnogi a gweithio gyda chyn gymunedau’r meysydd glo sydd fwyaf o angen help i greu cyfleoedd cymdeithasol ac economaidd newydd ar gyfer pobl yn eu cymunedau lleol.

• I gael mwy o wybodaeth ewch i - https://www.coalfields-regen.org.uk/