Cyhoeddi’r cynllun i lacio’r cyfyngiadau lefel rhybudd dau

Bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cyhoeddi cynllun heddiw ar gyfer mynd â Chymru yn ôl i fesurau lefel rhybudd sero.

Bydd y cynllun cymalog yn llacio’n gyntaf y mesurau ar weithgareddau awyr agored wrth i Gymru symud yn raddol o lefel rhybudd dau ac yn ôl yn llwyr i lefel rhybudd sero o 28 Ionawr.

Rydym yn gwneud hyn wrth i’r data iechyd cyhoeddus diweddaraf awgrymu bod nifer yr achosion o goronafeirws wedi dechrau gostwng o lefelau uchel iawn. Mae mwy na dwy ran o dair o’r boblogaeth 12 oed a throsodd wedi cael y pigiad atgyfnerthu neu drydydd dos o frechlyn Covid-19.

Ond er mwyn i ni allu symud yn llwyr i lefel rhybudd sero, rhaid i’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd barhau i wella.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

"Rwyf am ddiolch i bawb am ddilyn y rheolau sydd wedi bod mewn grym ers Gŵyl San Steffan a helpu i ddiogelu Cymru wrth i’r amrywiolyn omicron sgubo trwy’n cymunedau.

Rwyf am ddiolch hefyd i bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig â’r rhaglen frechu am yr ymdrech aruthrol i roi pigiad atgyfnerthu i bron traean o’r boblogaeth ers dechrau Rhagfyr – bu hyn yn allweddol i’n diogelu ymhellach rhag omicron.

Mae’r hyn rydyn ni wedi’i wneud gyda’n gilydd wedi’n helpu i wynebu storm omicron. Mae’r data diweddaraf yn rhoi arwyddion positif bod y gwaethaf o bosibl wedi mynd heibio.

Gallwn nawr edrych yn fwy hyderus tua’r dyfodol a chynllunio ar gyfer dechrau codi cyfyngiadau rhybudd lefel dau, gan ddechrau gyda’r mesurau awyr agored.

Ond nid yw’r pandemig ar ben. Byddwn yn cadw golwg fanwl ar iechyd y cyhoedd. Mae’r amrywiolyn yn un anwadal ac yn symud yn gyflym a gall y sefyllfa newid yn sydyn. Rwy’n pwyso felly ar bawb i gadw at yr rheolau ac i gael y brechlyn i gadw Cymru’n ddiogel."

Os bydd yr amodau’n caniatáu, byddwn yn codi cyfyngiadau lefel rhybudd dau fesul cam:

O fory, bydd nifer y bobl sy’n cael bod mewn digwyddiad awyr agor yn cynyddu o 50 i 500.

O ddydd Gwener, 21 Ionawr, bydd Cymru’n symud i lefel rhybudd sero o ran gweithgareddau awyr agored.

Mae hynny’n golygu na fydd unrhyw gyfyngiadau ar nifer y bobl fydd yn cael cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored.

  • Bydd torfeydd yn cael dychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon awyr agored
  • Bydd modd cynnal lletygarwch yn yr awyr agored heb fesurau rhesymol ychwanegol
  • Bydd angen Pas Covid i gael mynediad i ddigwyddiadau awyr agored mwy

Os bydd y duedd am i lawr yn parhau, o ddydd Gwener, 28 Ionawr, bydd Cymru’n symud i lefel rhybudd sero o ran pob gweithgaredd dan do:

  • Bydd clybiau nos yn cael ailagor.
  • Bydd gweithio gartref yn parhau’n bwysig ond ni fydd mwyach yn ofyn cyfreithiol
  • Bydd gofyn i fusnesau, cyflogwyr a sefydliadau eraill gynnal asesiad risg penodol ar gyfer coronafeirws a chymryd camau rhesymol i leihau’r perygl o ledaenu coronafeirws
  • Bydd angen Pas Covid i fynd i glybiau nos, digwyddiadau, sinemâu, neuaddau cyngerdd a theatrau.
  • Ni fydd angen cadw at y rheol o 6, gweini wrth fyrddau a chadw pellter o 2m mewn lletygarwch

Bydd y rheolau hunanynysu ar gyfer pawb sy’n cael canlyniad positif i brawf covid a’r rheolau ar wisgo gorchuddion wyneb yn y rhan fwyaf o leoedd dan do yn parhau ar ôl 28 Ionawr.

Bydd y cylch tair wythnos yn cael ei ailgyflwyno o 10 Chwefror pan fydd Llywodraeth Cymru’n adolygu’r holl fesurau lefel rhybudd sero fydd yn parhau mewn grym.