Cyfrifiad 2021 – Sicrhau bod y penderfyniadaumawr yn seiliedig ar y wybodaeth orau

Bydd Cyfrifiad 2021 yn allweddol i sicrhau bod y penderfyniadau mawr amddyfodol ein hysbytai, ysgolion, trafnidiaeth a gwasanaethau cyhoeddus eraill,yn dilyn y pandemig ac ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, yn seiliedig ar ywybodaeth orau bosibl

Arolwg a gaiff ei gynnal unwaith bob degawd gan y Swyddfa YstadegauGwladol (SYG) yw'r cyfrifiad – a gynhelir ar 21 Mawrth – sy'n rhoi'r amcangyfrifmwyaf cywir o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr.

Yn ogystal â llunio darlun newydd o faint pob cymuned, bydd y cyfrifiad digidolyn gyntaf hefyd yn taflu goleuni ar y newidiadau iechyd, cymdeithasol aceconomaidd i'n bywydau.

"Ar ôl blynyddoedd o gynllunio, mae'r cyfrifiad bron yma," dywedodd PeteBenton, cyfarwyddwr gweithrediadau'r cyfrifiad. "Dros y diwrnodau a'rwythnosau nesaf, byddwch yn clywed mwy a mwy ynghylch pam mae'rcyfrifiad mor bwysig, pam mae'n rhaid i chi gymryd rhan ac, yn hollbwysig, suty gallwch chi gymryd rhan. Cyn bo hir, bydd pob cartref yn cael cerdyn post, ynegluro beth yw'r cyfrifiad, ac ar ddechrau mis Mawrth bydd llythyrau yn cyrraedd yn y post yn gwahodd pobl i gymryd rhan yn y cyfrifiad digidol yngyntaf.

"Yn sgil pandemig y coronafeirws, mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni'ncael y wybodaeth ddiweddaraf hon er mwyn helpu i lywio gwasanaethauhanfodol ar gyfer y blynyddoedd i ddod, ac rydym ni'n gwneud yn siŵr y gallpawb gael eu cyfrif yn ddiogel yn unol â chanllawiau'r llywodraeth.

"Rydym ni wedi'i gwneud hi'n syml ac yn ddiogel i gymryd rhan. Dim ond 10munud fesul unigolyn mae'n ei gymryd i lenwi eich ffurflen chi, ac os na allwchchi fynd ar lein, bydd ffurflenni papur ar gael i'r rhai sydd eu hangen nhw, ynogystal â llawer o gymorth. Nawr yw'r amser i chi adael eich ôl ar hanes.”

Wrth reswm, mae cynnal y cyfrifiad yn ystod pandemig yn heriol, a diogelwch ycyhoedd sydd bwysicaf i SYG.

“Rydym ni am i bawb gael eu cyfrif yn ddiogel, ac rydym ni'n gwneud yn siŵrbod ein cynlluniau bob amser yn unol â chanllawiau diweddaraf y llywodraeth,"dywedodd Pete.

"Dim ond os na fydd deiliaid cartrefi wedi llenwi eu holiaduron nhw y byddswyddogion maes y cyfrifiad yn cynnal ymweliadau dilynol â chartrefi ar ôlDiwrnod y Cyfrifiad ar 21 Mawrth. Ni fyddan nhw byth yn mynd i mewn i gartref,byddan nhw bob amser yn cadw pellter cymdeithasol, yn gwisgo cyfarpardiogelu personol ac yn gweithio yn unol â holl ganllawiau'r llywodraeth.”

Hefyd, diweddarwyd y canllawiau ar gyfer rhai cwestiynau i adlewyrchu einffordd newydd o fyw a gweithio.

Ychwanegodd Pete: "I'r rhai sydd ar ffyrlo, rydym ni wedi diweddaru'rcanllawiau ar sut i ateb cwestiynau am waith. Mae angen i bob myfyriwr gael eigynnwys yn y cyfrifiad, a dylai ei gwblhau ar gyfer ei gyfeiriad arferol yn ystod ytymor. Os yw'n byw gartref ar hyn o bryd, bydd angen ei gynnwys yn y cyfrifiadar gyfer y cartref hwnnw hefyd."

Am y tro cyntaf, bydd cwestiwn yn gofyn i bobl a ydynt wedi gwasanaethu yn yLluoedd Arfog, yn ogystal â chwestiynau gwirfoddol i'r rhai sy'n 16 oed athrosodd am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd.
Bydd y canlyniadau cyntaf ar gael o fewn 12 mis, ond caiff cofnodion personoleu cadw'n ddiogel am 100 mlynedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i cyfrifiad.gov.uk.

I drefnu cyfweliadau cysylltwch â swyddfa’r wasg ar 0845 604 1858 neu 0203 684 5070 neu ebostiwch Media.Relations@ons.gov.uk