Cyflogi plant – beth mae cyflogwr yn gyfrifol amdano?

Mae’n Fis Ymwybyddiaeth Cyflogi Plant, ac mae Cyngor Blaenau Gwent yn atgoffa busnesau sy’n cyflogi plant rhwng 13 a 16 oed eu bod angen trwyddedau i gydymffurfio gyda chyfraith cyflogaeth.

Mae Deddf Plant 1933 ac is-gyfreithiau  awdurdodau lleol yn llywodraethu cyflogi plant oedran ysgol i sicrhau y caiff gweithwyr ifanc eu diogelu, eu trin yn deg a’u bod yn gwybod am eu hawliau.

Mae awdurdodau lleol ar draws Prydain yn ystod mis Ebrill bob blwyddyn yn rhoi sylw i’r gyfraith yng nghyswllt plant o oedran ysgol gorfodol sy’n gweithio’n rhan-amser drwy: ddosbarthu posteri a thaflenni mewn llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol a chanolfannau siopa; cyflwyniadau ac adnoddau ar gyfer ysgolion a mudiadau yn ogystal â chysylltu â chyflogwyr.

Yn ystod un Mis Cyflogi Plant ymwelwyd â 1394 o gyflogwyr ac allan o 1092 o blant y cawsant eu canfod yn gweithio, roedd 541 ohonynt yn cael eu cyflogi yn anghyfreithlon, yn bennaf heb y drwydded cyflogi (gwaith) angenrheidiol. Nid oedd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn gwybod am y ddeddfwriaeth am gyflogi plant oedran ysgol a’r gofyniad cyfreithiol i gael trwydded.

Beth mae’r gyfraith yn ei ddweud?

Mae’r gyfraith yn caniatáu i berson ifanc gael eu cyflogi o 14 oed, ond gall awdurdodau lleol ganiatáu cyflogi person ifanc o 13 oed. Mae’r gyfraith yn nodi’r oriau a ganiateir, y mathau o gyflogaeth a’i gwneud yn hanfodol i gyflogwyr gael trwydded ar gyfer gweithwyr oedran ysgol. Mae’n cynnwys hawliau’r gweithiwr a chyfrifoldebau y cyflogwr. Mae cyflogwyr syn torri’r ddeddfwriaeth hon yn rhoi diogelwch pobl ifanc mewn risg a gallant wynebu dirwyon hyd at £1,000.

Mae’n ffaith drist fod yr 541 hynny (tua 38%) yn fwy tebygol, heb gael eu cynnwys o fewn unrhyw fath o yswiriant, pa bynnag bolisïau sydd gan y cyflogwr mewn grym.

Dywedodd y Gymdeithas Yswirwyr Prydain, lle mae cyflogwr yn torri cyfraith neu reoliad, byddai unrhyw ddigwyddiad fel arfer yn gwneud y polisi yswiriant yn annilys. Mae’n rhaid i gyflogwyr sicrhau eu bod wedi cyflawni’r holl ymrwymiadau cyfreithiol a hefyd yn gwybod am unrhyw risgiau ac unrhyw weithdrefnau diogelwch eraill angenrheidiol cyn y cyflogant blentyn.

Felly byddai torri unrhyw gyfraith statud neu reoleiddiad yn ymwneud â chyflogi plant oedran ysgol (ac mae dros 200 o gyfreithiau neu reoliadau o’r fath) yn gwneud y polisïau yswiriant a all fod gan y cyflogwr yn annilys.

  • Cafodd un disgybl oedran ysgol ei losgi’n ddifrifol iawn pan oedd yn gweithio mewn cegin. Roedd yn cael ei gyflogi’n anghyfreithlon ac nid oedd ganddo drwydded. Nid oedd yn dod o fewn yswiriant y cyflogwr ac felly ni chafodd unrhyw iawndal am ei anafiadau. Torrwyd nerfau a gewynnau llaw bachgen arall pan lithrodd a syrthio pan oedd yn dosbarthu llaeth. Roedd hefyd yn cael ei gyflogi’n anghyfreithlon a heb drwydded.

Anafiadau yn y gweithle:

Mae nifer y plant a’r bobl ifanc a gaiff eu hanafu bob blwyddyn yn y gweithle yn mynd heb ei adrodd i raddau helaeth, yn arbennig os cânt eu hanafu tra cânt eu cyflogi’n anghyfreithlon. Mewn blynyddoedd diweddar bu achosion o fachgen 15 oed yn colli bysedd ei law mewn peiriant gwneud selsig, collodd merch 14 oed flaenau ei bysedd mewn tafellwr llysiau, lladdwyd bachgen 13 oed pan oedd yn gwneud ei rownd bapurau a cafodd llaw bachgen 10 oed ei dal mewn gwasg argraffu ddiwydiannol.

Oriau Gwaith:

Canfuwyd fod plant 15 a 16 oed yn gweithio tan 2am a 3pm (yn casglu gwydrau mewn clwb nos ac yn gweithio mewn cadwyn bwyd cyflym). Gwelwyd fod llawer o blant yn dechrau gwaith rhwng 5.30am a 6.30am (yn dosbarthu papurau newydd). Bydd gweithio ar yr adegau hyn yn effeithio ar addysg y plentyn ac mae’n anghyfreithon.

Beth yw’r swyddi poblogaidd?

Yn ôl ymchwil, “rownd  bapur yw’r swydd fwyaf poblogaidd ar gyfer bron hanner y plant (43%), a dilynir hynny gan weithio mewn siop (18%)”. Swyddi poblogaidd eraill yw: gweini ar fyrddau a/neu olchi llestri mewn caffes a bwytai; gweithio mewn salonau trin gwallt.

Pa fathau o swyddi na all plant eu wneud?

Gweithio mewn cegin, mewn garej, ar safle adeiladu, mewn ffatri, mewn gwerthiant ffôn a gwerthu alcohol heb oruchwyliaeth.

Mae tua 200 o ddeddfau a rheoliadau ar gyflogi plant.

Mae rhai ohonynt bron yn 100 oed. Gellir erlyn a dirwyo cyflogwyr sy’n torri’r rheoliadau.