Cyffro mawr am HiVE – Campws Peirianneg Gwerth Uchel newydd ym Mlaenau Gwent

Mae'r gwaith o adeiladu Campws Peirianneg Gwerth Uchel (HiVE) gwerth miliynau o bunnoedd ym Mlaenau Gwent wedi'i gwblhau, yn barod i groesawu dysgwyr STEM o bob cwr o'r wlad ym mis Medi.

Heddiw, trosglwyddodd Cyngor Blaenau Gwent, a arweiniodd y prosiect, y cyfleuster yn swyddogol i Goleg Gwent, a fydd yn treulio'r haf yn gosod y gofod gyda roboteg o'r radd flaenaf, technolegau gweithgynhyrchu uwch, ac offer digidol ymdrochol.

Bydd y campws 21,808 troedfedd sgwâr yn cynnig hyfforddiant ac addysg uwch-dechnoleg i bobl ifanc a busnesau mewn roboteg, a gweithgynhyrchu uwch mewn meysydd fel moduro, awyrofod, a thechnoleg gwybodaeth.

Sicrhaodd y Cyngor £10.8 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU (£9.3 miliwn o Gyllid Ffyniant Bro a £1.5 miliwn o Gyllid CFfG) a £4.8 miliwn gan raglen Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru i drawsnewid hen safle ffatri Monwel Hankinson yng Nglynebwy.

Mae'r cyfleoedd y bydd HiVE yn eu cynnig o ran addysg leol a datblygu sgiliau yn cyd-fynd â blaenoriaeth y Cyngor i 'wneud y mwyaf o ddysgu a sgiliau i bawb i greu Blaenau Gwent lewyrchus, ffyniannus, wydn,' yn ogystal ag Egwyddorion Marmot i 'alluogi pob plentyn, person ifanc ac oedolyn i wneud y mwyaf o'u galluoedd' a 'chreu cyflogaeth deg a gwaith da i bawb.'

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

"Mae'r cyfleuster newydd gwych hwn yn rhan allweddol o'n gweledigaeth i drawsnewid Cymoedd De Cymru yn ganolfan a gydnabyddir yn fyd-eang ar gyfer arloesi, gweithgynhyrchu uwch a thechnolegau cynaliadwy.

"Bydd yn helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr, chwalu rhwystrau i ddysgu STEM, a chreu cyflenwad o bobl ifanc dalentog sydd â'r sgiliau sydd eu hangen gyfer gyrfaoedd sy’n talu’n dda yn niwydiannau'r dyfodol."

Meddai'r Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet Economi a Lleoedd Cyngor Blaenau Gwent:

"Rwy'n falch iawn o gyhoeddi bod Campws HiVE wedi’i gwblhau. Mae'r cyfleuster uwch-dechnoleg hwn yn mynd i newid y gêm o ran y cyfleoedd y bydd yn eu rhoi i bobl ifanc hyfforddi yn niwydiannau heddiw ac yfory, ac i ddenu busnesau sydd angen gweithlu medrus i'r ardal leol, gan arwain at fewnfuddsoddiad.

"Mae Hive wedi wynebu rhai heriau yn ystod y gwaith adeiladu, ac rydw i am ganmol pawb dan sylw am eu hymrwymiad a'u gweledigaeth wrth gyflawni'r prosiect hynod bwysig hwn. Diolch i Lywodraethau Cymru a’r DU am ddyfarnu'r cyllid i wireddu hyn. Rydw i mor falch bod hwn ym Mlaenau Gwent, ac edrychaf ymlaen at weld sêr STEM y dyfodol ar waith."

Dywedodd Nicola Gamlin, Pennaeth Coleg Gwent:

"Rydym yn falch o gymryd perchnogaeth o'r cyfleuster HiVE modern; datblygiad pwysig ar gyfer addysg a sgiliau ym Mlaenau Gwent a thu hwnt. Dros yr haf, byddwn ni’n gweithio'n galed i osod technoleg arloesol yn HiVE i greu amgylchedd ysbrydoledig, ymarferol ar gyfer dysgu STEM. Rydym yn edrych ’mlaen i groesawu ein carfan gyntaf o ddysgwyr ym mis Medi."

Wedi'i leoli'n agos at ganol tref Glynebwy a Pharth Dysgu Blaenau Gwent Coleg Gwent, bydd y cyfleuster ar gael i holl drigolion Cymru yn ogystal â myfyrwyr yng Ngholeg Gwent sy'n astudio cyrsiau sy’n gysylltiedig â pheirianneg, gan helpu i hwyluso a chynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol y dref gan gefnogi busnesau manwerthu lleol.

Ond mae'r dysgu’n dechrau cyn HiVE, gyda'r Rhaglen Canolfannau HiVE mewn ysgolion lleol. Wedi'i hariannu gan Gymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ac mewn partneriaeth â Choleg Gwent, mae hon yn rhaglen arloesol o addysg beirianneg sy'n canolbwyntio ar ddiwydiant mewn ysgolion a hwyluso STEM. Mae'r rhaglen yn creu cysylltiadau ystyrlon a chynaliadwy rhwng y coleg ac ysgolion Blaenau Gwent i gefnogi profiadau dysgu ysbrydoledig o ansawdd uchel; wedi'u halinio â chyfleoedd dilyniant yn y dyfodol yn HiVE.

Nod HiVE yw

  • Darparu cymwysterau perthnasol, cyfoes ar gyfer y chwyldro diwydiannol nesaf.
  • Codi ymwybyddiaeth ymysg ysgolion, disgyblion, a'r gymuned ehangach.
  • Codi uchelgais ac ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol.
  • Gwella hygyrchedd.
  • Codi lefelau cyrhaeddiad mewn STEM.
  • Alinio â phartneriaid/rhanddeiliaid i ddatblygu pecyn/darpariaeth sgiliau; a
  • Mynd i'r afael â'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau mewn Peirianneg.

Bydd y Campws yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth a sgiliau gyda hyfforddiant, gan ganiatáu i fyfyrwyr brofi'r byd gwaith a rhoi cymwysterau iddynt fel BTEC, HNC neu HND. Bydd yn ganolfan ragoriaeth academaidd ar gyfer cymwysterau peirianneg perthnasol hyd at lefel 6 ac felly'n ymateb i'r diwydiant a'i anghenion. Bydd yr amgylchedd busnes yn cael ei atgyfnerthu gan y nifer cynyddol o drigolion medrus, gan ychwanegu at gystadleurwydd yr ardal.

Bydd datblygu'r Ganolfan yn diogelu'r ardal at y dyfodol trwy allu ymateb i gwmnïau sy'n lleoli eu hunain yn y Cymoedd Technoleg trwy gael trigolion sydd â’r setiau sgiliau priodol. Bydd y set sgiliau briodol yn arwain at ostyngiad yn nifer y bobl ifanc sydd wedi'u dosbarthu o dan statws NEET, a thrwy hynny gynyddu cyflogaeth a gweithgarwch economaidd yn yr ardal.

Bydd HiVE yn sicrhau y bydd gan bobl ifanc yr hyfforddiant a'r sgiliau perthnasol i wneud cais am swyddi yn y Sector Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch a'r Technolegau Digidol a Galluogi. Bydd myfyrwyr yn cael eu hyfforddi yn y sgiliau STEM y mae cyflogwyr lleol yn eu gwerthfawrogi.

Cymoedd Technoleg

Mae Cymoedd Technoleg yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy'n canolbwyntio ar drawsnewid Cymoedd De Cymru yn ganolfan a gydnabyddir yn fyd-eang ar gyfer arloesi, gweithgynhyrchu uwch, a thechnolegau cynaliadwy. Trwy fuddsoddi mewn sgiliau, seilwaith a thwf busnes, nod y Cymoedd Technoleg yw galluogi swyddi o ansawdd uchel, denu buddsoddiad, a meithrin twf economaidd cynhwysol ledled y rhanbarth.

I gael rhagor o wybodaeth am y Cymoedd Technoleg, anfonwch e-bost at: CymoeddTechnoleg@llyw.cymru