Cydweithio i helpu ysgolion i sicrhau adferiad o’r pandemig

Mae’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu wedi cefnogi drafft ‘Gynllun Adferiad ac Adnewyddu’ sy’n nodi sut y bydd y Cyngor yn gweithio gydag ysgolion i barhau i ymateb i heriau Covid-19 a hefyd tu hwnt i’r pandemig er mwyn sicrhau adferiad ac ailadeiladu.

Drwy gydol y pandemig, mae ysgolion ym Mlaenau Gwent wedi gweithio’n agos ac yn gadarnhaol gyda’r Cyngor i sicrhau dull cyson wrth ymateb i’r problemau a’r risgiau a gyflwynwyd gan y feirws a gweithredu canllawiau Llywodraeth Cymru. Gweithiodd ysgolion yn gyflym i addasu ac arferion gweithio a dysgu i gefnogi dysgwyr a theuluoedd drwy’r cyfnod digynsail hwn.

Mae angen nawr i edrych ymlaen at y ffordd orau i gefnogi dysgwyr a staff ysgol i symud ymlaen a ffynnu. Bu rhai o’r arferion a gyflwynwyd yn ystod y pandemig yn ddefnyddiol a bu ganddynt ran yn y cynlluniau wrth symud ymlaen, tebyg i hyblygrwydd dysgu ar-lein lle’n briodol.

Mae’r drafft ‘Gynllun Adfer ac Adnewyddu ‘ yn ddogfen waith, fydd yn esblygu i roi ystyriaeth i’r heriau sy’n dod i’r amlwg. Ei phrif flaenoriaeth yw:

“Lleihau effaith COVID-19 ar ddysgu a chynnydd dysgwyr, yn cynnwys gwella cymhwysedd digidol yr holl ddysgwyr a staff yng nghymuned ysgol ehangach Blaenau Gwent.”

Dynodwyd nifer o feysydd allweddol ar gyfer cymorth, yn cynnwys:

• Dysgwyr
• Dysgwyr bregus
• Arweinyddiaeth ysgol
• Staff (yn cynnwys hyfforddiant staff)
• Gofal plant
• Rheolaeth a gweithrediadau safleoedd ysgol
• Gwasanaethau cymorth ysgolion (tebyg i gymorth ADY a seicoleg)
• Gweithio gyda phartneriaid
• Gwaith iechyd ataliol
• Diogelu
• Cydweithio rhwng ysgolion

Bydd hefyd ffocws ar weithio gyda’r holl gymuned sy’n ymwneud ag ysgol yn cynnwys rhieni a gofalwyr, partneriaid a phreswylwyr.

Bydd y cynlluniau adfer yn parhau i fonitro effaith tlodi plant ar ddysgu, yn cynnwys y teuluoedd hynny a all fod wedi eu gwthio i dlodi fel canlyniad i’r pandemig a’r rhai oedd eisoes yn wynebu anawsterau ariannol.

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Collins, Aelod Gweithredol Addysg Cyngor Blaenau Gwent:

“Bu effaith pandemig Covid-19 ar addysg mor bellgyrhaeddol, ac unwaith eto diolch i chi holl staff addysg am eich gwaith caled a’ch ymroddiad. Rydym wedi manteisio ar y cyfle i ystyried ac adolygu effeithiau’r 21 mis diwethaf ar yr holl gymuned ysgolion yma ym Mlaenau Gwent. Mae angen yn awr i ni wneud popeth a fedrwn i sicrhau fod ein dysgwyr, ein staff ysgol a’n teuluoedd yn cael y gefnogaeth orau oll i symud ymlaen o hyn, a’r gallu i barhau i gael mynediad i’r cyfleoedd addysgu a dysgu gorau.

“Mae gennym berthynas gref gydag arweinwyr ysgolion ym Mlaenau Gwent ac mae awydd go iawn i gael gweledigaeth ar y cyd i gytuno a mynd i’r afael â’r blaenoriaethau allweddol ar gyfer ein plant a’n pobl ifanc, fel y gallwn gynyddu eu cyfleoedd dysgu a’u llesiant i’r eithaf.

“Mae’r cynllun drafft yn dod â hyn i gyd ynghyd ac mae’n fan dechrau ardderchog ar sut y byddwn i gyd yn cydweithio i fynd i’r afael ag adferiad tymor byr, tymor canol a hirdymor addysg yma ym Mlaenau Gwent.”