Cydnabod safleoedd Cyn-Ysgol am hyrwyddo bwyta’n iach

Rydym yn falch iawn y cafodd 13 o’n safleoedd cyn-ysgol blynyddoedd cynnar Wobr Safon Aur Snaciau Iach Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a gefnogwyd gan ein Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy.

Mae gan y bwydydd a’r diodydd a gynigir mewn safleoedd gofal plant ran bwysig yn iechyd plant a gallant helpu i ddatblygu arferion bwyta da i roi’r dechrau gorau mewn bywyd iddynt. Mae amser snaciau yn gyfle pwysig i blant ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu, annibyniaeth a sgiliau rhifedd.

Mae Gwobr Safon Aur Snaciau Iach yn ffordd ragorol i safle gofal plant ddangos ei ymrwymiad i gefnogi’r plant, teuluoedd a’r cymunedau y gweithiant gyda nhw i fwyta’n dda.