Cwmni yn codi arian ar gyfer diffribiliwr newydd

Roedd Gareth Davies a David Wilkshire, Cynghorwyr Rasa, yn falch iawn i fod yn bresennol ar gyfer lansiad diffibriliwr newydd yn Stad Ddiwydiannol Rasa heddiw.

Sicrhawyd y diffibriliwr, sydd ar gael i’r cyhoedd ei ddefnyddio, gan y cwmni, HR Dept, De Ddwyrain Cymru, a chaiff ei osod tu allan i’r adeilad ym Mynedfa 465 ar y Stad.

Dymunai’r cwmni wneud rhywbeth ar ôl i ferch un o’u gweithwyr gael ataliad sydyn ar ei chalon yn ei chwsg a dim ond oherwydd  i’w gŵr roi CPR yn gyflym iddi a diffibriliwr a ddefnyddiwyd gan barafeddygon y cafodd ei bywyd ei achub. Cafodd Leah, merch Lydia Miller, ddiagnosis wedyn o Syndrom Brugada, ac mae’r cwmni wedi gweithio ers hynny i godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr.

Gall ymateb cyflym i ataliad y galon a mynediad i diffribiliadur olygu’r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth.

Cafodd y diffibriliwr ei gyfrannu gan Kier Construction sydd â safle yn Nhredegar, a phrynwyd21 y cwpwrdd gydag arian a godwyd ar dudalen Just Giving. Gosodwyd y cwpwrdd gan QCF Construction, sydd hefyd yn seiliedig yn yr adeilad, a thalodd Ashley Red o Solliden, perchennog yr adeilad, am ei osod. Caiff unrhyw arian ar ôl ei gyfrannu at elusen SADS (‘Sudden Arrythmic Death’) UK.

Dywedodd y Cynghorwyr Davies a Wilkshire:

“Mae’r hyn yr aeth Lydia a’i theulu drwodd yn erchyll. Mae’n hollol wych eu bod wedi defnyddio eu profiad i helpu pobl eraill ac efallai achub bywydau, gyda chefnogaeth wych gan gyflogwr a chydweithwyr Lydia. Mae hyn yn rhagorol – da iawn i bawb sy’n gysylltiedig”

Mae mwy o wybodaeth am sut i roi CPR ar gael yn https://www.nhs.uk/conditions/first-aid/cpr/