Croesawu Ymwelwyr Ôl Ar Gyfer Drysau Agored

Mae Drysau Agored yn wŷl bensaernïaeth ledled Ewrop a gynhelir drwy gydol mis Medi fel rhan o Ddyddiau Treftadaeth Ewropeaidd. Mae Blaenau Gwent yn gwahodd pawb, yn bobl leol ac ymwelwyr, i ddathlu ein pensaernïaeth a’n treftadaeth drwy ddetholiad o deithiau cerdded ac ymweliadau. Gallwch ddarganfod cymaint am ein hanes lleol a’r cymeriadau a digwyddiadau a luniodd ein trefi, pentrefi a’r byd.

Mae dyddiau Drysau Agored yn gyfle i bawb ymchwilio adeiladau a safleoedd hanesyddol yn rhad ac am ddim, yn arbennig y rhai nad ydynt fel arfer ar agor i’r cyhoedd.

Mae’r ŵyl yn dechrau ddydd Sadwrn 4 Medi 2021 pan fydd Eglwys Sant Illtyd yn Abertyleri yn agor ei drysau i’r cyhoedd rhwng 10.00am a 4.00pm. Mae’n bendant mai Eglwys Sant Illtyd yw’r adeilad hynaf sy’n dal i sefyll ym Mlaenau Gwent. Mae mynwent fawr yr eglwys, sydd bron yn grwn, yn dangos ei gwreiddiau Celtaidd gyda’r cyfeiriad ysgrifenedig cynharaf at yr eglwys mewn cerdd o’r 9fed neu 10fed ganrif yn Llyfr Du Caerfyrddin.

Mae’r côr hynafol, y tŵr trawiadol a’r tu mewn gwyngalch syml yn cyfleu llymder a symlrwydd ei tharddiad mynachaidd. Caiff y fynwent ei chadw fel dôl blodau gwyllt ac mae’n rhoi golygfeydd panoramig ar draws cymoedd Ebwy.  Mae grŵp o wirfoddolwyr brwdfrydig sy’n awyddus i rannu ei hanes gydag ymwelwyr yn gofalu am y fynwent. Mae cofnod lawn o’r beddau yn y fynwent i gynorthwyo gydag ymchwil hanes teuluol.

Ddydd Sadwrn 25 Medi bydd Amgueddfa Abertyleri a’r Cylch yn cynnig teithiau tywys o’r amgueddfa, gan roi arddangosiadau o ddulliau cadwraeth a chipolwg ‘tu ôl i’r llenni’. Mae Amgueddfa Abertyleri a’r Cylch yn amgueddfa gymunedol ar lawr isaf hen neuadd adloniant o oes Victoria yng nghanol tref Abertyleri. Mae’r rhan fwyaf o arddangosiadau’r amgueddfa yn ymwneud â hanes diwydiannol a chymdeithasol hir y dref a’r ardal o amgylch gydag amrywiaeth o eitemau o grochenwaith Rhufeinig i gap a wisgodd Arthur Scargill yn ystod streic y glowyr. Bydd yr amgueddfa ar agor rhwng 10:30am a 4:00pm.
 
Dywedodd y Cyng Dai Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd ar Gyngor Blaenau Gwent: “Mae’r Ŵyl Drysau Agored yn gyfle gwych i weld lleoedd nad ydynt ar gael fel arfer i ymweld â nhw a’u hymchwilio. Eleni gallwch ymchwilio ein hadeilad hynaf a chael blas o’r hyn a wnaiff gwirfoddolwyr yn un o’n hamgueddfeydd gwych.’

Mae Dyddiau Treftadaeth Ewropeaidd yn gynllun gan Gyngor Ewrop. Caiff y digwyddiad ei gydlynu gan Cadw yng Nghymru ac mae ei bartneriaid yn trefnu digwyddiadau tebyg yn Lloegr a’r Alban. Lansiwyd y cynllun yn 1991 ac mae dros 20 miliwn o bobl yn ymweld â’r safleoedd Ewropeaidd sy’n cymryd rhan bob blwyddyn. Mae manylion llawn digwyddiadau Drysau Agored ar gael yn www.cadw.gov.wales.