Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Arolwg Asesu Lles

Rydyn ni am i Went fod yn lle gwych i fyw, gweithio ac i ymweld ag ef, nawr, ac, yn y dyfodol.

Yn 2017, siaradodd y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar draws Gwent â phobl leol, cymunedau a rhanddeiliaid i helpu i ddeall lles yr ardal.

Fe wnaeth y wybodaeth a rannwyd gan y bobl ein helpu i ddatblygu ein Cynlluniau Llesiant ar gyfer yr ardal leol. Datblygodd pob ardal ar draws Gwent nifer o amcanion ac roeddent yn canolbwyntio ar: gwarchod ardaloedd naturiol, brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd, teimlo'n ddiogel, creu'r dechrau gorau i bobl ifanc, galluogi ffyrdd iach o fyw, mynd i'r afael â thlodi a datblygu gwytnwch economaidd, creu cyfleoedd hyfforddi a swyddi.

A yw'r pethau hyn dal i fod yn bwysig i chi? Os na, beth sydd wedi newid?

Cymerwch ychydig o amser i gwblhau'r arolwg ar-lein: https://online1.snapsurveys.com/vs0vtm

Mae'r arolwg yn cau ddydd Iau 30 Medi.