Brechiadau COVID-19 – Cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a’r Prif Swyddog Meddygol ar frechu plant a phobl ifanc 12-15 oed

Rwy wedi cael cyngor o'r Prif Swyddogion Meddygol ar frechu plant a phobl ifanc 12-15 oed, ac felly rwy am roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi.

Mae Prif Swyddogion Meddygol pedair gwlad y DU wedi ystyried hyn yn fanwl.

O ran plant a phobl ifanc 12-15 oed nad oes ganddynt gyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes, dywedodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn ddiweddar fod manteision brechu ychydig yn fwy na’r niwed posibl y gwyddom amdano. Ond o safbwynt manteision iechyd i unigolion, nid oeddent o’r farn bod y manteision yn ddigon iddynt argymell rhaglen frechu gyffredinol i blant a phobl ifanc 12-15 oed. Roeddent hefyd yn cynghori, os y byddai Gweinidogion yn cydnabod bod materion ehangach i’w hystyried, materion nad yw’r Cyd-bwyllgor yn gyfrifol am eu gwerthuso o fewn ei gylch gwaith, er enghraifft, materion addysgol ac iechyd meddwl fod y pedwar Prif Swyddog Meddygol mewn sefyllfa well i roi cyngor ar hyn. Y materion ehangach hynny yw’r hyn y mae’r Prif Swyddogion Meddygol wedi’u hystyried yn fanwl, gan gynnwys mewnbwn clinigol ac iechyd y cyhoedd annibynnol sydd ar lefel uwch o bob rhan o’r DU.

Rwy’n arbennig o bryderus bod rhai asudiaethau’n dangos bod 1 o bob 7 o blant sydd â heintiau COVID-19 yn datblygu syndrom ôl-COVID.

Ar ôl ystyried yn ofalus, ar sail iechyd y cyhoedd, mae Prif Swyddogion Meddygol y DU yn argymell y dylai pob plentyn a pherson ifanc 12-15 oed, nad ydynt eisoes wedi'u cynnwys o dan gyngor presennol y Cyd-bwyllgor, gael cynnig dos cyntaf o frechlyn COVID-19 Pfizer-BioNTech.

Mae Swyddogion Meddygol y DU wedi penderfynu bod y manteision tebygol ychwanegol o leihau’r tarfu addysgol, a'r gostyngiad canlyniadol o ran niwed i iechyd y cyhoedd yn cynnig digon o fantais ychwanegol i argymell o blaid brechu'r grŵp oedran hwn. Mae hyn yn ychwanegol at y fantais fach ar lefel unigol a nodwyd eisoes gan y Cyd-bwyllgor.

Yn unol â gwledydd eraill y DU, rwy'n ddiolchgar i'r Prif Swyddogion Meddygol am y cyngor ac yn cytuno â'u hargymhellion. Bydd ein Gwasanaeth Iechyd yn gweithio yn ystod yr wythnosau nesaf i ddechrau cynnig dos o frechlyn i bob plentyn a pherson ifanc 12-15 oed. Mae gennym fodel cyfunol o gynnig y brechlyn gyda'r holl fyrddau iechyd yn bennaf yn gwahodd y grŵp oedran hwn i ganolfannau brechu gyda rhai ardaloedd yn mynd drwy ysgolion. Cryfder y model hwn yw ei fod yn seiliedig ar wybodaeth leol ac mae'n hyblyg ac yn ystwyth fel y gall newid yn dibynnu ar yr amgylchiadau.

Nid yw'r brechlyn yn orfodol a gall pobl ddewis a ddylid cael y brechlyn ai peidio.Bydd gwybodaeth briodol ar gael i blant a phobl ifanc a'u rhieni i'w helpu i wneud penderfyniad ynghylch cael y brechlyn. Mi fydd gofyn i rieni neu warcheidwaid rhoi caniatâd. Rwy'n annog rhieni, gwarcheidwaid, plant a phobl ifanc i drafod gyda'i gilydd a ddylid cael y brechiad ai peidio.