Blaenau Gwent yn ymuno ag ymgyrch ailgylchu wych Cymru i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a chyrraedd rhif un yn y byd

Gyda 92% o bobl yng Nghymru bellach yn ailgylchu yn rheolaidd*, mae Cymru gam yn nes at gyflawni ei hymgyrch Wych o gyrraedd rhif un yn y byd am ailgylchu.
 
Dyna pam mae Blaenau Gwent wedi ymuno â Cymru yn Ailgylchu trwy alw ar eu preswylwyr  i ddal ati gyda’u hymdrechion gwych i ailgylchu popeth y gallan nhw y Gwanwyn yma.
 
Er gwaethaf yr heriau a ddaeth i’n rhan yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae cyfradd ailgylchu Cymru ar ei gorau (65%**) ac mae 55%* ohonom bellach yn ailgylchu mwy nag yr oedden ni 12 mis yn ôl.

Mae Cymru wedi dangos ei ysbryd gwych ac mae hi eisoes yn y trydydd safle yn y byd, ond dyw hanner ohonom dal ddim yn ailgylchu popeth allwn ni, ac mae peth ffordd i fynd eto.
 
Mae ailgylchu yn un o'r ffyrdd hawsaf o helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd o’n cartrefi gan ei fod yn helpu i warchod adnoddau naturiol ac yn arbed ynni, gan arafu  effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Ymunwch â ni i gefnogi ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha. Cymru yn Ailgylchu, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, er mwyn helpu i amddiffyn dyfodol ein planed.

Dywedodd y Cyng Joanna Wilkins, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:
 

“Rydyn ni'n cefnogi Ymgyrch Wych Cymru yn Ailgylchu i gyrraedd rhif un yn y byd am ailgylchu. Gallwn ni i gyd chwarae ein rhan drwy ailgylchu popeth o fewn ein gallu yn y cartref – boed yn fwyd gwastraff, fel plisgyn wyau, croen ffrwythau a llysiau, a bagiau te o’r gegin, neu drwy ailgylchu poteli siampŵ a gel gwag o'r ystafell ymolchi. Rydyn ni wedi dangos bod gennym ni’r gallu i sicrhau mai hon fydd ein blwyddyn ailgylchu orau erioed, felly gadewch i ni barhau â'n hymdrech wych i arwain Cymru i rif un yn y byd.”

Mae Cymru yn Ailgylchu wedi rhannu ei bum awgrym gorau ar gyfer ailgylchu o’ch cartref y Gwanwyn hwn:

1. Ewch yn wyrdd wrth dwtio’ch cartref
 
Gellir ailgylchu poteli cynnyrch glanhau gwag – o boteli cannydd plastig i chwistrellwyr ac erosolau sglein dodrefn. Gofalwch eu bod yn wag a rhowch nhw yn eich ailgylchu yn lle eu taflu. Bydd ailgylchu un botel chwistrellu yn unig yn arbed digon o egni i wefru chwe thabled.
 
2. Cliriwch eich annibendod
 
Y Gwanwyn yn draddodiadol yw’r amser i gael rhyw fath o drefn yn y cartref. Yn lle taflu eitemau, edrychwch ar Lleoliad Ailgylchu Cymru yn Ailgylchu i gael mwy o wybodaeth am ble i ailgylchu eitemau fel batris, dillad ac eitemau trydanol bach.
 
3. Trowch eich gwastraff bwyd yn ynni
 
Os ydych chi'n coginio, rhowch yr holl wastraff bwyd na allwch ei fwyta fel crwyn a choesynnau llysiau yn eich cadi gwastraff bwyd, ynghyd â phlisgyn wyau ac unrhyw esgyrn sy'n weddill o gig neu bysgod. Gellir ailgylchu bagiau te, grownds coffi a chroen ffrwythau hefyd. Pan fydd bwyd yn cael ei ailgylchu, caiff ei droi'n ynni adnewyddadwy. Gall un croen banana wedi'i ailgylchu gynhyrchu digon o egni i wefru dau ffôn smart.
 
4. Dangosa i boteli’r ystafell molchi pwy di’r bos
 
Gellir ailgylchu'r rhan fwyaf o eitemau plastig yn y cartref gan gynnwys cynhyrchion ymolchi o’r ystafell ymolchi fel poteli siampŵ, cyflyrydd, sebon dwylo a gel cawod plastig. Pan fyddan nhw wedi gorffen, rhowch rinsiad iddyn nhw a'u rhoi yn eich cynhwysydd ailgylchu. Mae'n cymryd 75% yn llai o egni i wneud potel blastig o blastig wedi'i ailgylchu o'i gymharu â defnyddio deunyddiau ‘crai’, felly beth am warchod y blaned o'ch ystafell ymolchi drwy ailgylchu.
 
5. Chwalu’ch chwistrellwyr
 
Gellir ailgylchu pob math o ddiaroglyddion, siampŵ sych ac erosolau aer gwag. Mae metel yn anfeidrol sy'n golygu y gellir ei ailgylchu dro ar ôl tro heb golli dim o'i ansawdd. Ymunwch â'r 73% o bobl yng Nghymru sydd eisoes yn ailgylchu eu caniau erosol gwag.
 
Dysgwch fwy yn: http://byddwychailgylcha.org.uk/

*Arolwg Traciwr Bach Cymru yn Ailgylchu (Hydref 2020)
**Ystadegau Cymru