Blaenau Gwent yn ymuno ag ymgyrch ailgylchu wych Cymru i fod y genedl ailgylchu bennaf yn ystod Wythnos Ailgylchu

Cymru yw’r drydedd genedl orau o ran ailgylchu yn y byd, ac mae’r Ymgyrch Gwych i’n cael ni at rif un yn parhau yn ystod Wythnos Ailgylchu 2021 o 20 tan 26 Medi.

Mae ailgylchu’n rhan bwysig o daclo newid yn yr hinsawdd ac mae’n rhywbeth syml y gall pawb ei neud i gael effaith gwirioneddol. Mae’r Cyngor wedi cymryd camau yn y blynyddoedd diweddar i wella ymhellach fel cynyddu’r amrywiaeth o ddeunyddiau sy’n gallu cael eu hailgylchu yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref, a hoffem ddiolch i drigolion a’r gymuned am eu hymdrechion parhaus tuag at wella’n lefelau ailgylchu yn Blaenau Gwent.

Ailgylchu yw’r arfer bellach yng Nghymru, gyda dros 92% ohonom ni’n ailgylchu’n rheolaidd fel rhan o’n trefn pob dydd. Rydym yn ailgylchu plicion ffrwythau a llysiau, plisg wyau, bagiau te a sbarion bwyd yn ein cadis bwyd; yn ailgylchu o bob ystafell, gan gynnwys yr ystafell ymolchi a’r ystafell wely, ac yn ailgylchu eitemau lletchwith fel erosolau gwag.

I ddysgu mwy am yr ymgyrch gwych, ewch i www.walesrecycles.org.uk, edrychwch am weithgarwch yr ymgyrch ar sianeli cymdeithasol Cymru yn Ailgylchu, neu ymunwch yn y sgwrs gan ddefnyddio #RecycleWeek a #BeMightyRecycle.

Bydd yn ailgylchwr gwych, gwarchod y blaned a helpu Cymru i fod y wlad orau yn y byd am ailgylchu drwy wneud y canlynol:

Os yw wedi’i wneud o blastig, ac yn siâp potel, ailgylcha ef

Mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n ailgylchu. Mewn gwirionedd, mae mwy nag 88% ohonon ni’n ailgylchu poteli plastig fel poteli diodydd, nwyddau glanhau a nwyddau ymolchi. Cofia’i wagio, ei wasgu a rhoi’r caead yn ôl arno cyn ei ailgylchu. Gellir gadael y chwistrell ar boteli glanhau. 

Rhoi rinsiad cyflym iddo

Cofia rinsio potiau, tybiau a chynwysyddion yn gyflym cyn eu hailgylchu; gan gofio tynnu unrhyw haenau plastig. Does dim angen eu golchi’n drylwyr, ac mae eu rhoi yn y peiriant golchi llestri’n mynd dros ben llestri – ac yn gwastraffu ynni!

Ailgylcha ganiau erosol o bob ystafell

Gellir ailgylchu metelau ailgylchadwy fel caniau erosol dro ar ôl tro heb i ansawdd y deunydd ddirywio. Cofia ailgylchu’r caniau erosol gwag o’r ystafell wely a’r ystafell ymolchi, fel chwistrell gwallt, diaroglydd a gel eillio. Mae ailgylchu cyn lleied â dau gan erosol yn arbed digon o ynni i bweru set DJ am un awr.

Ailgylcha dy holl wastraff bwyd

Pan gaiff ei ailgylchu, mae dy wastraff bwyd yn cael ei droi’n ynni adnewyddadwy. Buasai dim ond un croen banana’n creu digon o ynni i wefru dau ffôn smart. Er bod 90% ohonon ni’n ailgylchu ein gwastraff bwyd, mae rhywfaint o fwyd yn dal i gyrraedd y bin sbwriel. Cofia bod modd ailgylchu gwastraff fel bagiau te a gwaddodion coffi, plisg wyau, esgyrn a chrafion llysiau a ffrwythau.

Tynna’r bwyd oddi ar ddeunydd pacio wedi’i wneud o gardbord

Tynna ddarnau o fwyd oddi ar ddeunydd pacio o bapur a chardbord cyn eu hailgylchu. Er enghraifft, galli gynnwys y bocs pitsa, ond iti wneud yn siŵr bod unrhyw fwyd wedi cael ei dynnu oddi arno.

Defnyddia’r prawf crychu

Ansicr a ellir ailgylchu darn o bapur? Rho gynnig ar ei grychu yn dy law. Os nad yw’n bownsio’n ôl, yna gellir ei ailgylchu. Mae hwn yn brawf da i’w wneud gyda phapur lapio. Ac os wyt ti am ailgylchu cardiau pen-blwydd, rhwyga unrhyw ddarnau gyda llwch llachar arno i ffwrdd yn gyntaf.

Cofia ei wasgu

Gwasga boteli plastig a chaniau’n gyflym – mi wnaiff hynny arbed lle yn dy gynhwysydd ailgylchu a’u gwneud yn fwy effeithlon i’w cludo. Gwasga eitemau ffoil at ei gilydd yn ysgafn i’w helpu i fynd drwy’r broses ddidoli heb fynd ar goll.

Os nad wyt ti’n siŵr, gwiria

Os nad wyt ti’n siŵr os, sut, neu ymhle y galli ailgylchu eitem, galli edrych ar Leolydd Ailgylchu Cymru yn Ailgylchu yn https://walesrecycles.org.uk/cy/lleoliad-ailgylchu-1. Y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw rhoi dy god post i mewn a bydd yr ateb yn ymddangos.

I weld beth sy’n digwydd i’ch ailgylchu ac i ble mae’n mynd, gallwch ymweld â gwefan Fy Ailgylchu Cymru ble mae gwybodaeth ddefnyddiol iawn ar gael.