Blaenau Gwent yn helpu i greu Gwent ecolegol gadarn

Mae Partneriaeth Gwent Gydnerth wedi cynhyrchu Adroddiad Cyflwr Natur Gwent sy’n rhoi gwybodaeth werthfawr fydd yn rhoi llinell sylfaen er mwyn asesu effeithlonrwydd gwaith cadwraeth.

Hwn yw’r tro cyntaf y cafodd tueddiadau rhanbarthol eu cofnodi ar gyfer llawer o’r 100 rhywogaeth a gaiff eu cynnwys. Mae monitro a chasglu data bywyd gwyllt yn bwysig tu hwnt a bydd yn helpu i lywio Partneriaeth Gwent Gadarn wrth symud ymlaen, gan gyfeirio mwy o gofnodi a monitro. Mae’n dangos yr angen i godi ymwybyddiaeth ac addysg, yn ogystal â newid polisi a gweithredu ar gadwraeth yn y dyfodol.

Un enghraifft o’r fath lle mae gwybodaeth a data wedi helpu i gyfeirio gweithredu yw prosiect Draenogod Trefol Blaenau Gwent. Bu pobl leol yn creu priffyrdd draenogod, gan roi safleoedd nythu a chofnodi gweithgareddau ein cyfeillion pigog drwy dwnnel ôl-troed draenogod.

Mae Tai Calon hefyd wedi cefnogi prosiect Draenogod Trefol drwy sicrhau y cafodd llwybrau draenogod eu cynnwys mewn unrhyw ffensys terfyn newydd y buont yn eu gosod. Cafodd hyn ei ddilyn gan Tai Calon yn cynnig pecynnau Draenogod Trefol i’w tenantiaid.

Ehangodd prosiect draenogod trefol yng ngwanwyn 2021 i nifer o ysgolion ym Mlaenau Gwent, gydag 8 ysgol yn cymryd rhan mewn prosiect peilot cenedlaethol gyda Champws Cefnogi Draenogod. Mae’r holl ysgolion hyn yn awr yn cymryd y camau ychwanegol i wneud tir ysgolion yn lle gwell a mwy diogel ar gyfer yr anifeiliaid anhygoel yma. Mae’r ysgolion eisoes wedi bod yn cynnal arolygon ôl-troed draenogod a chamerâu bywyd gwyllt, casglu sbwriel, plannu planhigion ffafriol i ddraenogod a gwneud eu pwt i godi ymwybyddiaeth yn eu cymuned leol.

Mae Adroddiad Cyflwr Natur Gwent a hefyd y prosiect Trefol yn rhan o brosiect ‘Gwent Gydnerth’. Caiff hyn ei gyllido gan Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Llywodraeth Cymru.

“Mae hwn yn brosiect gwirioneddol ddiddorol ar gyfer Blaenau Gwent, Gwent ac asiantaethau partner. Mae’r adroddiad yn rhoi gwybodaeth hollbwysig fydd yn helpu i lywio’r camau mae angen i ni eu cymryd i helpu mynd i’r afael â’r dirywiad mewn bioamrywiaeth a chynyddu cydnerthedd yr ecosystem. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at weld sut mae hyn yn datblygu.’ Cyng Joanna Wilkins

“Mae’r proseict hwn yn gyffrous iawn ar gyfer Bwrdeistref Blaenau Gwent a’r awdurdodau cyfagos. Hoffwn ddymuno pob lwc iddo. Mae’n dangos cydweithredu gwych ymysg llawer o fudiadau lleol a hefyd yn rhoi cyfle ar gyfer gwyddoniaeth dinasyddion!” – Cyng Lee Parsons, Hyrwyddwr Natur Blaenau Gwent