Blaenau Gwent - pump cyngor cyntaf yn y Deyrnas Unedig yn ymuno ag ymgyrch genedlaethol Bond Hinsawdd Lleol

Pump cyngor cyntaf yn y Deyrnas Unedig yn ymuno ag ymgyrch genedlaethol Bond Hinsawdd Lleol
- ymrwymo i ymchwilio lansio bond gwyrdd yn y 18 mis nesaf

Mae pump o gynghorau o Gymru a Lloegr yn cyhoeddi heddiw iddynt ddod yn rhan o ymgyrch Bond Hinsawdd Lleol y Green Finance Institute ac Abundance Investment, a lansiwyd ym mis Gorffennaf eleni i hybu defnyddio math blaengar o fuddsoddiad bwrdeisiol. Yn dilyn cynlluniau peilot llwyddiannus gan gynghorau Warrington a West Berkshire y llynedd, cynghorau Blaenau Gwent, Cotswold, Eastbourne, Islington a Lewes yw’r cyntaf o 404 awdurdod y Deyrnas Unedig i ymrwymo i ymchwilio lansiad bond neu fuddsoddiad hinsawdd bwrdeisiol cysylltiedig o fewn 18 mis o gynhadledd hinsawdd byd-eang hollbwysig COP 26 a gynhelir ym mis Tachwedd eleni.

Mae Bond Hinsawdd Lleol yn fath o ‘fuddsoddiad bwrdeisiol cymunedol’ a gafodd ei arloesi gan gynghorau West Berkshire a Warrington yn 2020, a disgwylir iddo ddod yn rhan greiddiol o’r ffordd mae awdurdodau lleol yn cyllido symud i sero-net a chyrraedd y targedau hinsawdd a nodwyd ganddynt. Mae’r mathau hyn o fuddsoddiadau bwrdeisiol yn galluogi awdurdodau lleoli godi cyfalaf i gyllido cynlluniau “gwyrdd” penodol yn eu cymdogaethau, o ffermydd gwynt i osod paneli solar, dad-ddofi tir a chynlluniau ar gyfer cerbydau trydan, drwy fodel cyllid tyrfa a reoleiddir. Mae preswylwyr lleol yn buddsoddi o cyn lleied a £5, gan fanteisio o fuddsoddiad enilliad risg isel a sefydlog, sy’n cymharu gyda buddsoddiadau eraill a gefnogir gan y Llywodraeth, tebyg i Giltiau a ffordd i ddefnyddio eu cynilon i helpu mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yn eu hardal.

Mae Abundance wedi amcangyfrif y gallai’r math hwn o fuddsoddiad hinsawdd godi cymaint â £3 biliwn pe byddai’r 343 awdurdod lleol yn Lloegr yn unig yn ei ddefnyddio. Ymhellach, am y tro cyntaf, mae math newydd o Fuddsoddiad Bwrdeisiol Cymunedol (yn defnyddio strwythur benthyciad cymheiriaid a gaiff ei reoleiddio) bellach ar gael sy’n gymwys i gael ei gadw mewn ISA Cyllid Arloesol. Bydd hyn yn galluogi cynghorau i gyrraedd buddsoddwyr newydd a dechrau manteisio ar farchnad £650 biliwn ISA.

Dywedodd Dr Rhian-Mari Thomas OBE, Prif Weithredwr, Green Finance Institute: “Mae llawer o gynghorau ar draws y wlad wedi bod yn hybu cynlluniau uchelgeisiol i drawsnewid eu hadeiladau cyhoeddus, lleoedd a gwasanaethau i gefnogi dyfodol gwyrddach, glanach; mae’n gyffrous gweld ein cohort cyntaf yn ymrwymo’n ffurfiol i’r datrysiad ariannol blaengar hwn ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw, ynghyd  Abundance Investment, i gefnogi uchelgeisiau sero-net a fydd o fantais uniongyrchol i’w preswylwyr.”

Mae ymgyrch y Sefydliad Cyllid Gwyrdd ac Abundance yn gweithio gyda thimau cyllid, amgylchedd a hinsawdd cynghorau i rannu gwybodaeth a rhoi cefnogaeth agos drwy’r broses o ddeall, ffurfioli ac wedyn lansio Bond Hinsawdd Lleol sy’n rhoi mynediad i gyllid gwyrdd ac arbenigwyr buddsoddiad bwrdeisiol.

Mae pob un o’r pump cyngor wedi datgan argyfyngau hinsawdd ac yn gweithio gyda’u preswylwyr i ddynodi a blaenoriaethu prosiectau i gael eu cyllido. Yn bwysig, maent yn amrywiol o ran lleoliad, heriau amgylcheddol a phrosiectau gwyrdd a ddynodwyd, gan ddangos apêl y math hwn o gyllid i leoedd ar draws y Deyrnas Unedig.

Cyngor Blaenau Gwent
Dywedodd y Cynghorydd Dai Davies, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd Cyngor Blaenau Gwent:

“Mae newid hinsawdd yn fater byd-eang ac mae’n hollol hanfodol ein bod yn gweithredu nawr i ddiogelu ein hamgylchedd er lles cenedlaethau’r dyfodol. Mae cyllid ar gyfer prosiectau sy’n anelu i ostwng ein dibyniaeth ar danwydd ffosil bob amser yn her. Rwyf felly yn falch ein bod yn un o’r Cynghorau cyntaf i lansio bond hinsawdd lleol. Mae’r model blaengar hwn yn gwella cysylltiad gyda’n cymuned leol, yn cefnogi rhoi prosiectau a ddynodwyd yn lleol tebyg i dyrbinau gwynt ar waith yn gyflym ac yn hollol gydnaws gyda’n cynllun datgarboneiddio’.

Cyngor Dosbarth Cotswold
Dywedodd y Cyng Rachel Coxcoon, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a Blaengynllunio Cyngor Dosbarth Coswold:

“Mae angen i ni fod yn uchelgeisiol a hefyd yn flaengar os ydym i gyflawni ein targedau lleol, cenedlaethol a byd-eang ar gyfer gostwng nwyon tŷ gwydr. Mae rhoi cyfle i breswylwyr Cotswold i fuddsoddi mewn buddsoddiadau hinsawdd bwrdeisiol wedi ei reoleiddio yn un ffordd y gallwn fynd yn gyflymach ac ymhellach wrth weithredu prosiectau gwyrdd yn ein hardal. Mae’r cynllun hwn yn rhoi cyfle i bawb fod yn rhan o’r datrysiad i’r argyfwng hinsawdd. Mae’n gwella’r ardal leol, yn ymladd newid hinsawdd, ac yn rhoi adenilliad ariannol. Edrychwn ymlaen at gymryd y camau nesaf i ddod â’r prosiect cyffrous hwn yn fyw.”

Cyngor Dosbarth Eastbourne
Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Dow, aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd yng Nghyngor Dosbarth Eastbourne:

“Rwy’n hynod falch i fod ymysg y cynghorau cyntaf yn y wlad i gefnogi’r ymgyrch hon, gan danlinellu ein hymrwymiad i sicrhau tref niwtral o ran carbon erbyn 2030.

“Mae hwn yn un o wahanol gamau a gymerir at y nod honno ac mae’n neilltuol o ddefnyddiol oherwydd y byddai’n rhoi’r opsiwn i breswylwyr lleol i fuddsoddi rhai o’u cynilion, sydd yn ei dro yn cydrannu at helpu ein tref i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.”

Cyngor Islington
Dywedodd y Cyng Rowena Champion, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth ar Gyngor Islington:

“Gwyddom y bydd Islington lanach, gwyrddach ac iachach yn gwneud bwrdeistref gwell a mwy cyfartal i bawb.

“Mae’n amlwg fod angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, gyda bron dri-chwarter y bobl ifanc 16-25 oed a gymerodd ran mewn arolwg diweddar yn dweud fod newid hinsawdd yn eu gwneud yn ofnus am y dyfodol. Mae gennym ddyled i’r cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol i weithredu’n awr i ddiogelu ein planed, cyn iddi fod yn rhy hwyr.

“Dyna pam ein bod yn gweithio’n ddiflino i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd drwy ein rhaglen o strydoedd cyfeillgar i bobl, trydaneiddio cerbydau ar draws fflyd y cyngor, a drwy ddarparu ynni mwy gwyrdd a fforddiadwy i gartrefi ar draws y fwrdeistref.

“Mae’n hanfodol fod preswylwyr, busnesau a partneriaid wrth galon ein gweledigaeth ac edrychwn ymlaen at roi cyfle iddynt chwarae eu rhan wrth helpu’r cyngor i adeiladu’n ôl yn wyrddach.”

Cyngor Dosbarth Lewes
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Bird, aelod Cabinet dros Gynaliadwyedd yng Nghyngor Dosbarth Lewes:
“Mae’r ymgyrch hon yn hollol gydnaws gyda’n targed o ddod yn hollol gydnerth o ran hinsawdd a chyflawni sero-net carbon erbyn 2030.

“Rwy’n croesawu’r bondiau hyn a fyddai’n galluogi pobl ar draws ardal Lewes i fuddsoddi cyn lleied â £5 mewn prosiectau sy’n helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yn eu cymuned.”

Meddai Karl Harder, cyd-sefydlydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Abundance Investment: “Bydd gan gynghorau lleol rôl hanfodol yn llwyddiant y Deyrnas Unedig wrth symud i Sero Net ac mae lansio buddsoddiad hinsawdd bwrdeisiol wedi bod yn ffordd effeithlon i ysgogi diddordeb ac egni lleol. Yn unigol, gall her yr argyfwng hinsawdd ymddangos yn ddychrynllyd ond drwy fuddsoddi gyda’n gilydd gallwn sbarduno cannoedd o chwyldroadau gwyrdd lleol, gan fuddsoddi o £5.

Cefnogir y Cynllun Bond Hinsawdd Lleol gan UK100 ac Innovate UK.

Dywedodd Polly Billington, Prif Weithredwr, UK100: “Mae angen i’r awdurdodau lleol uchelgeisiol yn Rhwydwaith UK100 gyllido’r prosiectau fydd yn eu galluogi ‘r trosiant seiliedig ar le i Sero Net, mae llawer ohonynt yn datblygu cyfleoedd buddsoddi da a seiliwyd ar achos busnes cryf. Bydd y bondiau hyn yn ein helpu i gyrraedd ein nod ar yr hinsawdd a hefyd yn galluogi awdurdodau lleol i gael mynediad i’r cyfle economaidd y mae Sero Net yn ei roi ar ran eu cymunedau.”

Fe wnaeth cynghorau West Berkshire a Warrington ill dau gyhoeddi Bond Hinsadd Lleol peilot yn 2020, gan godi cyfanswm o £2 miliwn ar gyfer prosiectau yn cynnwys paneli solar, adfer cynefinoedd, plannu coed a goleuadau stryd.

Mae’r Green Finance Institute eisiau clywed gan gynghorau lleol sy’n ymchiwlio ffyrdd blaengar i gyllido prosiectau gwyrdd ac sy’n dymuno ymchwilio ymuno â’r ymgyrch bond Hinsawdd Lleol; mae gwybodaeth ar gael yn www.greenfinanceinstitute.co.uk/LCBs.