Blaenau Gwent i gynnal y Cynulliad Hinsawdd cyntaf yng Nghymru

Gwahoddwyd pobl ym Mlaenau Gwent i rannu eu sylwadau a’u datrysiadau ar gyfer mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yn yr hyn fydd cynulliad hinsawdd cyntaf Cymru i drafod newid hinsawdd.

Cynhelir Cynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent ar-lein yn ystod dau benwythnos ym mis Mawrth gan ddod â phreswylwyr ynghyd o bob rhan o’r fwrdeistref i drafod y cwestiwn: “Beth ddylem ni wneud ym Mlaenau Gwent i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd mewn ffordd deg ac sy’n gwella safonau byw ar gyfer pawb?”

Mae 10,000 o aelwydydd ym Mlaenau Gwent wedi derbyn gwahoddiadau ysgrifenedig i gofrestru eu diddordeb mewn cymryd rhan. Caiff 50 o bobl o blith y rhai sy’n gwneud cais eu dewis ar hap i gymryd rhan a byddant yn dysgu am broblemau hinsawdd sy’n wynebu eu cymuned, yn trafod themâu tai, natur a thrafnidiaeth cyn cynnig a thrafod datrysiadau posibl.

Trefnir y Cynulliad gan gymdeithasau tai United Welsh, Linc Cymru, Cartrefi Melin a Tai Calon mewn partneriaeth gydag elusen datblygu cynaliadwy Cynnal Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ac ERS Cymru.

Dywedodd Steve Cranston, Arweinydd Economi Sylfaen cymdeithas tai United Welsh:

“Mae newid hinsawdd yn argyfwng sy’n effeithio ar bawb ohonom, o’r cartrefi yr ydym yn byw ynddynt hyd at y bwyd yr ydym yn ei fwyta gyda’n teuluoedd. Mae cynulliad hinsawdd yn gyfle gwych i gasglu barn pobl leol yn cynrychioli’r boblogaeth ehangach am yr hyn sydd angen iddo ddigwydd, gan helpu gwneuthurwyr penderfyniadau ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru i lunio eu dull gweithredu.

Mae gennym i gyd ran i’w chwarae wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd. Fel partneriaeth rydym yn edrych ymlaen at ddod ynghyd gyda phobl ym Mlaenau Gwent i ddysgu, herio ac ysbrydoli gweithredu.”

Yn y Cynulliad bydd arbenigwyr blaenllaw yn cyflwyno gwybodaeth ar newid hinsawdd a’r is-themâu i’r 50 a gymerodd ran i roi cyd-destun i lywio’r trafodaethau.

Dywedodd Jess Blair, Cyfarwyddwr ERS Cymru:

“Drwy’r cynulliad hinsawdd, mae Blaenau Gwent yn arwain y ffordd yng Nghymru ar fodel newydd o ddemocratiaeth, sy’n rhoi mwy o lais i bobl leol yn y materion sy’n effeithio arnynt. Cafodd cynulliadau fel hyn eu defnyddio ar draws y Deyrnas Unedig, yn cynnwys gyda Chynulliad Dinasyddion yr Alban, Cynulliad Hinsawdd y Deyrnas Unedig yn ogystal â mannau eraill o amgylch y byd. Bydd y Cynulliad yn rhoi cyfle i sampl cynrychioladol o bobl yn y gymuned i drafod, ystyried a llunio argymhellion a gaiff eu clywed gan wneuthurwyr penderfyniadau ar draws llywodraeth leol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a Llywodraeth Cymru.

Mewn mannau eraill profwyd y bydd modelau fel hyn yn rhoi mwy o lais i bobl mewn penderfyniadau lleol a rhoi cipolwg i wneuthurwyr penderfyniadau ar y cyfaddawdau y byddai pobl yn eu gwneud am newid hinsawdd. Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn a fedrwn ni ddim aros i’w weld ar waith.”

Sarah Hopkins, Cyfarwyddwr Cynnal Cymru:

“Mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn datgan argyfwng hinsawdd ac yn cydnabod fod angen gweithredu ar frys ar lefel leol i ostwng allyriadau carbon. Bydd pontio i ddim carbon yn golygu newidiadau i fywydau pobl felly mae’n hanfodol y gall dinasyddion ddeall a chymryd rhan ar y daith yma. Rydym yn falch iawn i ymwneud â threfnu Cynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent. Bydd yr argymhellion y penderfynir arnynt yn helpu i lywio’r dull cydweithio at ddatgarboneiddio o gymdeithasau tai, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a sefydliadau allweddol yn y rhanbarth. Gobeithiwn y bydd rhanbarthau eraill yng Nghymru hefyd yn mabwysiadu prosesau tebyg i lywio cynllun gweithredu datgarboneiddio.”

Mae’r Cynulliad wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy gonsortiwm a gaiff ei reoli gan ddarparydd gwasanaeth ynni Sero lle dyfarnwyd mwy na £7m i ddatgarboneiddio 1,370 o gartrefi a chreu dulliau i ymestyn datgarboneiddio graddfa fawr o gartrefi ar draws Cymru fel rhan o’r  Rhaglen Ôl-osod wedi’i Optimeiddio.

Caiff argymhellion y Cynulliad eu rhannu gyda phob partner consortiwm a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i helpu llywio ymgysylltu effeithlon gyda dinasyddion ar gyfer newid hinsawdd yn y dyfodol.

Dywedodd Michelle Morris, Rheolwr Gyfarwyddwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:

“Mae newid hinsawdd yn broblem fyd-eang ac mae’n hollol hanfodol ein bod yn gweithredu nawr i ddiogelu ein hamgylchedd er lles cenedlaethau’r dyfodol ac rwy’n siŵr y bydd y Cynulliad Hinsawdd yn ein helpu i ganolbwyntio ar hyn. Fel Cyngor rydym yn sylweddoli pwysigrwydd yr heriau ac fe wnaethom gyhoeddi Cynllun Datgarboneiddio newydd yn ddiweddar. Rydym eisoes yn cymryd nifer o gamau i ostwng ein heffaith carbon tebyg i wella effeithiolrwydd ynni ein hysgolion, ein hadeiladau cyhoeddus a’n goleuadau stryd, a hefyd yn gostwng faint o wastraff a anfonir i domen lanw. Bydd y Cynllun hwn yn ein gweld yn cymryd agwedd fwy strategol at sicrhau bod yn niwtral o ran carbon a bydd yn ein helpu i flaenoriaethu gwaith mewn nifer o feysydd allweddol o’n gweithrediadau a all, gyda rhai newidiadau, wneud cyfraniad sylweddol i ostwng ein nod o fod yn niwtral o ran carbon.”

Mae mwy o wybodaeth am Gynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent ar gael yn:
http://www.cynnalcymru.com/blaenau-gwent-climate-assembly/


Beth yw cynulliad hinsawdd?

Mae cynulliad hinsawdd yn ffordd o wneud penderfyniadau. Caiff ei ddefnyddio ym mhob rhan o’r byd i edrych ar broblemau a llunio syniadau. Mae’n dod ynghyd â grŵp o bobl a ddewiswyd ar hap sy’n fras gynrychioli’r holl gymuned. Mae’r bobl sy’n mynychu yn dysgu am broblem, ei thrafod gyda’i gilydd, ac yna wneud argymhellion am yr hyn ddylai ddigwydd.

Pam fod y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal?

Mae angen i ddatrysiadau i’r argyfwng hinsawdd roi ystyriaeth i heriau a chyfleoedd gwahanol leoedd. Mae Cyngor Blaenau Gwent a’r cymdeithasau tai lleol yn credu fod gan bobl leol rôl bwysig i’w chwarae wrth benderfynu ar gamau gweithredu fydd hefyd yn gwella bywydau ym Mlaenau Gwent. Rydym eisiau cael eich sylwadau ac argymhellion ar sut y gall ein hardal leol fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Bydd yr argymhellion a benderfynwyd gan y Cynulliad Hinsawdd:

● yn cael eu hystyried gan y Gyngor fel rhan o’i strategaeth hinsawdd;
● yn llunio cynlluniau hinsawdd y cymdeithasau tai, yn cynnwys sut y gwneir newidiadau i gartrefi presennol (‘ôl-osod’) i sicrhau eu bod yn gydnaws gyda bywydau unigolion ac yn rhoi buddion i’r gymuned;
● yn cael eu hanfon at Lywodraeth Cymru i helpu llunio eu strategaeth datgarboneiddio a’r Rhaglen Lywodraethu nesaf;
● yn cael eu trafod gyda grwpiau cymunedol yn yr ardal i wneud yn siŵr y gall dinasyddion lunio cynlluniau lleol yn well.

Pwy all wneud cais i gymryd rhan yn y Cynulliad?

Gall unrhyw un 16 oed a throsodd, sy’n byw mewn aelwyd a gafodd wahoddiad, wneud cais. Ni all y bobl ddilynol wneud cais i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn:

● Pob cynrychiolydd etholedig unrhyw lefel o lywodraeth;
● Gweithwyr cyflogedig unrhyw blaid wleidyddol;
● Gweithwyr cyflogedig y cyngor sy’n gweithio mewn swyddi gyda chyfyngiad gwleidyddol;
● Gweithwyr cyflogedig y cymdeithasau tai sy’n cymryd rhan.

Sut y cafodd y 10,000 o aelwydydd a wahoddwyd eu dewis i dderbyn gwybodaeth?

Cafodd 10,000 cyfeiriad o bob rhan o Flaenau Gwent eu dewis ar hap o gronfa ddata cyfeiriadau’r Post Brenhinol. Ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cofrestru, caiff 50 o bobl eu dewis ar hap i gymryd rhan yn y digwyddiad. Caffi y detholiad ar hap ei bwysoli i wneud yn siŵr fod y grŵp yn cynnwys bobl o bob rhan o’r gymuned.