Ar Eich Stryd Fawr - Medi Organig

Caiff mis Medi ei gyd ei ymroi i gynnyrch organig ac mae hwn yn gyfle gwych i edrych ar gynghorion am chwilio am y cynnyrch organig gorau sydd ar gael.

PAM ORGANIG?
Mae ffermio organig yn bwysig am lawer o resymau. Mae bod yn eco-gyfeillgar yn wych i’r amgylchedd, yn arbennig ar gyfer ein bywyd gwyllt a’r holl bryfed hynny sydd mor bwysig yn peillio cnydau. Mae’n fwy caredig i’r pridd ac mae hyn mor bwysig wrth dyfu cnydau. Mae’n well ar gyfer y ffermwyr gan nad ydynt yn wynebu’r risg i iechyd y mae cemegau niweidiol yn ei achosi. Mae’r ffermwyr hefyd yn cael premiwm uwch am eu cynnyrch sy’n hollbwysig yn arbennig mewn gwledydd sy’n datblygu. Caiff defnyddwyr sicrwydd cynnyrch heb gemegau sy’n fwy caredig i ni, y cynhyrchydd a’n planed.

SUT MAE GWYBOD BETH SY’N ORGANIG?
Mae’r cyfan yn y logos. Cadwch lygad am logo Cymdeithas y Pridd a roddir i gynhyrchwyr organig. Mae hefyd yn werth edrych am logo Masnach Deg gan fod y rhan fwyaf o gynhyrchwyr Masnach Deg yn tyfu’n organig.

BLE MEDRAF I BRYNU CYNNYRCH ORGANIG?
5 cyngor da

  1. Y lle gorau i ddechrau arni yw siopau organig arbenigol fel Arlo’s Organics yng Nglynebwy. Maent yn gwybod beth yw ffynhonnell popeth a werthant ac mae ganddynt ardystiad felly gallwch siopa’n ddiymdrech am fwyd organig, colur, cynnyrch glanhau, teganau ac eitemau eraill i’r cartref.
  2. Mae siopau cyfeillgar i’r amgylchedd fel Zero Waste ym Mrynmawr hefyd yn lle da i edrych. Gallwch fynd â’ch cynwysyddion eich hun i’w hail-lenwi, gan ostwng defnydd plastig un-tro. Mae ganddynt wybodaeth ragorol am eu cynnyrch ac mae croeso i chi holi a gwirio am eitemau organig.
  3. Cadwch lygad am y logos – dewch yn gyfarwydd gyda logo Cymdeithas y Pridd a chadw llygad amdano pan fyddwch mas yn siopa.
  4. Siopa Masnach Deg – mae’r rhan fwyaf o gynnyrch Masnach Deg hefyd yn organig. Mae’r Co-op bob amser wedi bod yn gefnogol iawn i Masnach Deg ac mae ganddynt ddewis eang o gynnyrch o eitemau bob dydd fel te a choffi i ddanteithion arbennig fel siocled a gwin.
  5. Peidiwch â chyfyngu eich gweledigaeth i fwyd, diod a cholur. Edrychwch hefyd am eitemau eraill fel dillad a dillad gwely cotwm a lliain organig. Mae popeth o grysau ti i labeli dylunwyr fel Nomad ar gael yn Pebbles, Brynmawr, ac yn defnyddio cotwm organig a ffibrau naturiol eraill.

Dymuniadau gorau wrth chwilio am gynnyrch organig a daliwch ati i edrych am ddanteithion organig ym Medi Organig ac wedyn. Dywedodd y Cyng Dai Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd Cyngor Blaenau Gwent; "Cofiwch y gallwch brynu popeth o’ch coffi a cabernet i’ch te a chrysau ti gan gynhyrchwyr organig. Mae popeth a brynwch yn golygu mwy o chwarae teg i bobl a’r blaned."