Adnewyddu cyrtiau tennis parc ym Mlaenau Gwent

  • Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a’r LTA wedi cytuno ar bartneriaeth i roi bywyd newydd i gyrtiau tennis mewn parciau lleol ar draws y fwrdeistref.
  • Bydd y prosiect yn gweld £37,516.70 o fuddsoddiad ar draws parciau cyhoeddus Cyngor Blaenau Gwent.
  • Daw buddsoddiad o Brosiect Tennis Parc Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Sefydliad Tennis LTA, a gyflwynir gan yr LTA.

Mae Cyngor Blaenau Gwent a’r LTA yn gweithio mewn partneriaeth i fuddsoddi yn ac adnewyddu cyrtiau tennis parc cyhoeddus yn y fwrdeistref.

Cafodd safle tennis parc ei adnewyddu yn Six Bells, Abertyleri, gyda buddsoddiad o £37,516.70 gan helpu i sicrhau fod cyfleusterau safon uchel ar gael ar gyfer y gymuned leol.

Mae’r prosiect yn rhan o fuddsoddiad cenedlaethol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Sefydliad Tennis LTA, a gyflwynir gan yr LTA, i adnewyddu cyrtiau tennis cyhoeddus ar draws Prydain Fawr, ac agor y gamp i lawer mwy o bobl. Fel rhan o’r buddsoddiad byddir yn adnewyddu miloedd o gyrtiau tennis parc presennol sydd mewn cyflwr gwael neu na fedrir chwarae ynddynt ar hyn o bryd fywyd newydd er budd cymunedau ar draws y wlad, gan eu gwneud yn fwy cyfleus gyda thechnoleg mynediad clwyd a systemau archebu newydd.

Mae cyrtiau tennis parc yn hanfodol wrth roi cyfleoedd i blant ac oedolion fod yn actif, gan roi  manteision sylweddol i iechyd corfforol a meddwl a llesiant y sawl sy’n cymryd rhan. Mae cyfleusterau hygyrch mewn parciau yn neilltuol o bwysig i agor y gamp i rai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is a menywod a genethod.

Yn ogystal â buddsoddiad o £35,016.70 gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Sefydliad Tennis LTA, bydd Cyngor Blaenau Gwent hefyd yn buddsoddi £2,500.

Wrth ochr y buddsoddiad hwn, bydd y Cyngor hefyd yn gweithio gyda Tennis Cymru a’r LTA i gyflwyno amrywiaeth o weithgareddau ar draws y safleoedd parc. Bydd hyn yn cynnwys sesiynau tennis parc wythnosol am ddim wedi’u trefnu ar gyfer pob oed, lefelau chwarae a phrofiad lle darperir offer, gan olygu na fydd yn rhaid i bobl gael rhywun i chwarae gyda nhw na bod yn berchen eu raced eu hunain. Bydd Cynghreiriau Tennis lleol hefyd yn rhoi cyfleoedd cyfeillgar, cymdeithasol i gymryd rhan drwy gystadlaethau lleol.

Mae’r safle parc a adnewyddwyd yn Six Bells yn Abertyleri, tra bydd Parc Bedwellte yn Nhredegar hefyd ar gael i’w archebu ar-lein yn cynnwys drwy wefan yr LTA yn ei gwneud yn llawer rhwyddach i ganfod ac archebu cwrt neu weithgaredd.

Unwaith y bydd y gwaith wedi ei gwblhau, bydd pob cwrt a sesiynau ar y ddau safle ar gael i’w harchebu ar-lein drwy wefan yr LTA: https://www.lta.org.uk/play.

Dywedodd y Cyng Helen Cunningham, Aelod Cabinet Lle ac Amgylchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:

“Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Gymdeithas Tennis Lawnt (LTA) a grwpiau cymunedol lleol am eu cefnogaeth i wella cyrtiau tennis Parc Six Bells. Bydd yr adnewyddu hwn yn rhoi cyfleoedd i’r gymuned leol ac ehangach i chwarae tennis ar ba lefel bynnag ac ar gyfleusterau o’r ansawdd uchaf.”

Dywedodd Julie Porter, Prif Swyddog Gweithredu yn yr LTA:

“Rydym yn falch iawn i weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i wella eu cyfleusterau tennis parc a rhoi mwy o gyfleoedd i unrhyw un godi raced a bod yn actif.

 “Mae’r buddsoddiad hwn yn rhan o Brosiect Tennis Parc Llywodraeth Cymru a’r LTA a bydd yn golygu y bydd cyrtiau ar gael i bobl eu defnyddio am flynyddoedd i ddod. Byddwn hefyd yn gweithio’n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i sicrhau fod gan y gymuned leol amrywiaeth o gyfleoedd cyfleus i fynd ar y cwrt, ac agor ein camp i lawer mwy o bobl.”