Sgyrsiau gydag Archifau Gaeaf 2023

Mae’n bleser gennym groesawu’r siaradwyr canlynol yn ein cyfres Gaeaf

Dydd Iau 26 Ionawr 2023 2pm-3pm

Arrivederci Bardi, Croeso i Coedduon! - Steam Pies, coffee, & ice cream—Lyn Pask (Traddodir y ddarlith hon yn Saesneg)
Stori sut y daeth naw o deuluoedd Eidalaidd, y cyfan bron i gyd o Bardi yn nyffryn Ceno, i fyw yn y Coed Duon rhwng 1900 a 1939. Byddwn yn dysgu sut a pham y bu iddyn nhw ddewis bryniau Cymru, sut y gwnaethon nhw addasu i fywyd mewn tref Gymreig yn y cymoedd, y dylanwad a gafodd diwylliant eu mamwlad ar y dref ac i’r gwrthwyneb, a’r bwydydd hyfryd y bu iddyn nhw eu cyflwyno i’r boblogaeth leol.

Dydd Iau 23 Chwefror 2023 3pm-4pm

Medicine, farming and society in seventeenth-century Monmouthshire: the commonplace book of John Gwin of Llangwm—Maddy Gray and Tony Hopkins (Traddodir y ddarlith hon yn Saesneg)
Roedd John Gwin yn berson chwilfrydig iawn, yn ffermwr ffrwythau brwd, gyda diddordeb mewn datblygiadau gwyddonol a meddygol, yn ddyn teulu mawr ac yn warden eglwys egnïol. Mae hyn oll wedi ei adlewyrchu yn ei lyfr lloffion, lle roedd yn nodi’r holl bethau roedd eisiau eu cofio. Mae’n cynnig cipolwg unigryw i fyd diwylliannol a deallusol de-ddwyrain Cymru mewn cyfnod o ryfel sifil a chyffro crefyddol a gwleidyddol mawr. Mae ei lyfr nodiadau wedi ei gyhoeddi gan Gymdeithas Cofnodion De Cymru, wedi ei olygu gan Maddy Gray, Tony Hopkins ac Alun Withey, ac yn y sgwrs hon, mae’r golygyddion yn trafod hyn i gyd gyda ni!

Dydd Llun 27 Mawrth 2023 1pm-2pm

Welcome to #CrowdCymru - Jennifer Evans (Traddodir y ddarlith hon yn Saesneg)
Mae #Crowd Cymru yn brosiect gwirfoddoli digidol, sy’n cael ei rhedeg ar y cyd gan Archifau Gwent, Archifau Morgannwg a Chasgliadau ac Archifau Arbennig Prifysgol Caerdydd.
Gellir ei gyrchu trwy blatfform cyfrannu torfol, dwyieithog, sy'n galluogi gwirfoddolwyr i dagio, anodi a disgrifio casgliadau treftadaeth ddigidol ar eu cyflymder eu hunain a hynny o gartref [gyda mynediad i gyswllt diwifr (Wi-Fi)]! Mae'r Swyddog Prosiect Gwirfoddoli Digidol yn esbonio sut mae'r prosiect yn dod yn ei flaen ac yn dod ag archifau digidol i fyw mewn modd bywiog! O  ddiddordeb i unrhyw un sy’n mwynhau hanes lleol a chymdeithasol.

Bydd pob sgwrs yn cael ei chynnal arlein ar Microsoft Teams, ac yn costio £5 y person fesul sgwrs

I archebu eich lle neu drafod unrhyw ofynion ychwanegol anfonwch e-bost atom yn enquiries@gwentarchives.gov.u