Blaenau Gwent People First Cyfarfod

Blaenau Gwent People First Cyfarfod

Canalfon Bert Denning, 23 Hydref 2025 10:00am

Cyfarfod 23 Hydref 10:00am DARLLEN HAWDD

Gad i ni siarad am…

Iechyd - Mae angen mwy o apwyntiadau gyda Meddygon Teulu, mae angen i Wiriadau Iechyd Blynyddol fod yn fwy trylwyr a dylai llythyrau fod yn hawdd eu darllen. Dyma un o brif flaenoriaethau Grwp Cynghori Gweinidogion as Anabledd Dysgu (LDMAG) yn symud ymlaen.

Allwch chi gael apwyntiad gyda Meddyg Teulu?
Ydych chi’n cael llythyrau hawdd eu darllen i’ch gwahodd i wiriad iechyd blynyddol?

Budd-daliadau - Mae llawer o aelodau’n cael trafferth gyda’r newid o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) i Gredyd Cynhwysol ac mae aelodau eisiau darganfod beth sy’n digwydd gyda’r ymgynghoriad ar fudd-daliadau yn gynharach yn y flwyddyn.

Beth yw’r problemau gyda’r newid drosodd?
Pa bryderon sydd gennych chi?
Pa gymorth sydd ei angen arnoch?

Cymorth pan fyddwch yn symud - Mae rhai pobl yn gorfod aros misoedd i’w cymorth gael ei drosglwyddo pan fyddant yn symud sir, neu wlad.

Ydych chi wedi symud Sir neu Wlad?
Pa gymorth gawsoch chi i wneud hyn?

Taliadau Uniongyrchol - Gwelodd cynrychiolwyr yr ymgynghoriad cyfredol. Cododd Lucy y mater o anghysondeb ynghylch pwy sy’n cael Taliadau Uniongyrchol a phwy sy’n gorfod cyfrannu tuag at eu gofal.

Ydych chi’n cael Taliad Uniongyrchol?
Oedd hi’n hawdd cael Taliad Uniongyrchol?
Ydych chi’n gorfod cyfrannu tuag at eich Taliad Uniongyrchol?

Cymorth i bobl sy’n byw gyda’u teulu - Nid yw llawer o bobl sy’n byw gyda’u teulu yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Disgwylir i’w teuluoedd roi cymorth. Nid oes cynllunio i’r dyfodol ychwaith.

Rhannwch enghreifftiau o’r cymorth mae teuluoedd yn ei gael i’ch helpu i aros yn byw gartref

Edrychwn ymlaen at eich gweld bryd hynny.