LHDTC+: Archwilio casgliad GLAGG
Dydd Mercher 11 Chwefror
I:00pm - 2:00pm.
Sefydlwyd Gr\Np Lesbiaid a Hoywon Gwent ym mis Ebrill 1986. Byddent yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau, disgos, cyfarfodydd a theithiau yng Ngwent yn ogystal d Iledaenu gwybodaeth am HIV ac AIDS. Bydd y sgwrs fer amser cinio, yn tynnu sylw at röl weithredol y gr\Np yng Ngwent, ei gysylltiadau ehangach ar draws cymunedau yn Ne Cymru, natur gynhwysol ac amrywiaeth y grfi/p a sut y brwydrodd y grfi/p dros gyfiawnder cymdeithasol.
Mis Hanes Menywod: Straeon am fenywod y Carchar ym Mrynbuga
Dydd Mercher 18 Mawrth
I:00pm - 2:00pm.
Mae straeon am fenywod yn aml yn mynd yn angof gyda threigl amser, a phan fydd menywod yn ymddangos mewn archifau, yn aml, dim ond hanes menywod y dosbarth uchaf a'r mawrion sy'n cael eu hadrodd. Y n
y sgwrs fer yn ystod amser cinio, byddwn yn pori drwy straeon y menywod yr anghofiwyd amdanynt, sydd wedi eu nodi yn llyfrau Carchar Brynbuga. Mae pori drwy fywydau'r menywod hyn nid yn unig yn datgelu straeon y menywod o Went, mae'n cyffwrdd ar themåu pwysig fel mewnfudo, morwynion, galwedigaethau menywod yn y 1800au, merched ifanc y cafwyd hwy'n euog o droseddau a'u hanfon i ysgolion diwygio yn Lloegr, a llawer mwy.
GWASANAETH ARCHIFAU CHREDEDIG
I archebu eich Ile, e-bostiwch enquiries@gwentarchives.gov.uk