Tudalen Deisebau Blaenau Gwent

Tudalen Deisebau Blaenau Gwent

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn croesawu deisebau ac yn cydnabod eu bod yn un ffordd y gall unigolion, grwpiau cymunedol a mudiadau fynegi eu barn a’u pryderon am rywbeth y mae’r Cyngor yn gyfrifol amdano. Mae gwefan y Cyngor hefyd yn cynnwys nifer o ffyrdd eraill y gallwch gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd.

Gellir cyflwyno deisebau yn ysgrifenedig i’r Cyngor neu drwy’r broses e-ddeisebau. Ni chaiff deisebau o systemau deiseb ar-lein eraill eu derbyn.

Cyn cyflwyno deiseb gofynnir i chi sicrhau eich bod wedi dilyn y gofynion a nodir ym Mhrotocol Deisebau y Cyngor.

Beth yw deiseb?

Deisebau yw un o’r ffyrdd mwyaf uniongyrchol i awgrymu sut y gallai rhywbeth newid ym Mlaenau Gwent. Gall deisebau:

  • Godi ymwybyddiaeth am fater;
  • Arwain at newid ym mholisi’r Cyngor neu ffordd wahanol o ddarparu gwasanaethau;
  • Arwain at, neu ddylanwadu, ar drafodaeth yn y Cyngor;
  • Ysgogi Pwyllgor neu Aelod unigol o’r Cyngor i gymryd camau gweithredu pellach eu hunain, er enghraifft drwy ofyn cwestiynau.

 

Cyn cyflwyno Deiseb, caiff preswylwyr eu hannog i:

  • Cysylltu â’r Cyngor i weld os y byddai cais cyffredin am wasanaeth yn datrys y mater.
  • Cysylltu ag Aelod(au) ward perthnasol i weld os gallant helpu. Mae manylion sut i gysylltu â’ch Aelod lleol ar gael ar wefan y Cyngor.

Gellir cyflwyno deisebau yn un o’r ffyrdd dilynol:

  • Gall e-ddeisebau gael eu creu, eu llofnodi a’u cyflwyno yn defnyddio’r ddolen ddilynol
  • I greu, llofnodi neu gyflwyno deiseb bydd angen i chi roi ychydig o fanylion sylfaenol, yn cynnwys cyfeiriad e-bost dilys, ar gyfer dibenion gwirio.
  • Gellir hefyd anfon deisebau drwy e-bost at – services@blaenau-gwent.gov.uk
  • Gellir anfon deisebau papur at:

 

Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd

Adran Gwasanaethau Democrataidd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Swyddfeydd Cyffredinol

Glynebwy

NP23 6DN

 

Diogelu data a GDPR

Gofynnir i chi roi gwybodaeth bersonol os ydych yn creu a chyflwyno e-ddeiseb neu’n llofnodi e-ddeiseb. Mae hefyd angen gwybodaeth bersonol pan lofnodwch ddeiseb bapur.

 

Y Cyngor yw rheolydd data gwybodaeth bersonol a gesglir ar gyfer e-ddeisebau a hefyd ddeisebau papur. Mae’r ddolen ddilynol i wefan y Cyngor ynghylch Diogelu Data a Phreifatrwydd Diogelu Data a’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth | CBS Blaenau Gwent (blaenau-gwent.gov.uk)

 

Yn dilyn cyfnod o 21 diwrnod ar ôl i’r Cyngor ymateb yn ffurfiol, caiff deiseb bapur ei dinistrio a chaiff pob e-lofnod ar e-ddeiseb eu dileu, os nad yw trefnydd y ddeiseb wedi gofyn am adolygiad yn ystod y cyfnod hwnnw.

 

e-Ddeisebau cyfredol

Mae e-Ddeiseb yn ddeiseb sy’n casglu llofnodion ar-lein. Gallai hyn ei gwneud yn bosibl i ddeisebau a gwybodaeth gefnogi i fod ar gael i gynulleidfa llawer ehangach na deiseb draddodiadol seiliedig ar bapur.

 

Gall unrhyw un sy’n byw, gweithio neu’n astudio yn yr ardal gyflwyno neu lofnodi e-Ddeiseb. Mae e-Ddeisebau yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i wrando ar a gweithredu ar farn y cyhoedd.

 

Dewiswch ystod dyddiad cynharach islaw i ganfod e-Ddeisebau a gwblhawyd ac ymatebion gan y Cyngor.

 

Top of Form

Nid oes unrhyw e-Ddeisebau ar hyn o bryd

 

Cefnogi e-Ddeiseb

I gefnogi e-Ddeiseb bresennol dewiswch e-Ddeiseb ac ychwanegu eich enw, cyfeiriad a chyfeiriad e-bost.

 

I gael mwy o wybodaeth am y mater, gweler yr wybodaeth gefnogol a ddarperir gan y deisebydd arweiniol, a atodir gyda’r e-Ddeiseb.

 

Cyflwyno e-Ddeiseb

Gall e-Ddeiseb ymwneud ag unrhyw fater y mae gan y Cyngor bwerau neu ddyletswyddau amdano neu y mae wedi rhannu cyfrifoldebau cyflenwi drwy’r Cytundeb Ardal Leol neu drefniant partneriaeth arall.

 

Ymwadiad

Nid yw’r Cyngor yn derbyn unrhyw rwymedigaeth ar y deisebau ar y tudalennau gwe yma. Nid yw’r farn a fynegir yn y deisebau o reidrwydd yn adlewyrchu barn y  darparwyr.

Hysbysiad Preifatrwydd