Cyfarfodydd Llawn y Cyngor:
Lle mae pob un o’r 33 o Gynghorwyr yn cwrdd i gymeradwyo unrhyw bolisïau newydd a chynlluniau gwario mawr. Mae’r cyfarfodydd hyn yn cael eu cynnal bob chwe wythnos, gyda chyfarfodydd cyngor arbennig yn cael eu cynnal weithiau er mwyn ymdrin â materion penodol.
Gweithrediaeth:
Mae’r Weithrediaeth yn cynnwys yr Arweinydd a saith Cynghorydd arall a benodir yn flynyddol gan y Cyngor. Mae’r Weithrediaeth yn cyflawni holl swyddogaethau’r Cyngor nad ydynt yn gyfrifoldeb unrhyw ran arall o’r Cyngor, ac mae’n gyfrifol am wneud penderfyniadau pwysig o ddydd i ddydd o fewn y Cyngor. Ar hyn o bryd, cynhelir cyfarfodydd bob tair wythnos.
Pwyllgorau Craffu:
Mae’r Pwyllgorau hyn yn cynnwys 9 Cynghorydd, ac maent yn gyfrifol am adolygu a chraffu penderfyniadau a wnaed gan y Weithrediaeth, gwneud argymhellion ar gyfer newid yn seiliedig ar eu gwaith ymchwil, a chynorthwyo’r Cyngor a’r Weithrediaeth i ddatblygu ei fframwaith cyllidebol a pholisi. Ar hyn o bryd, mae gan y Cyngor bedwar pwyllgor craffu (manylion isod), sy’n cyd-oruchwylio wyth portffolio’r Weithrediaeth. Mae’r cyfarfodydd hyn yn cael eu cynnal bob chwe wythnos.
- Pwyllgor Craffu Corfforaethol A Pherfformiad
- Pwyllgor Craffu Pobl
- Pwyllgor Craffu Lle
- Pwyllgor Craffu Partneriaethau
Pwyllgorau Rheoleiddio:
Mae’r Pwyllgorau hyn yn cynnwys 11 Aelod ac yn cael eu cynnal yn fisol. Maent yn cyflawni swyddogaethau penodol a roddwyd iddynt dan bwerau dirprwyedig.