Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i bob cynghorydd lenwi ffurflen datgan buddiannau er mwyn cofrestru eu buddiannau ariannol a buddiannau eraill a allai wrthdaro â'u rôl fel cynghorydd lleol.
Mae hefyd yn ofynnol iddynt ddatgan unrhyw fuddiannau ar ddechrau unrhyw un o gyfarfodydd y cyngor lle y bo'r budd penodol hwnnw'n gwrthdaro â rhai neu â phob un o'r materion a drafodir yn y cyfarfod. Ni chânt gymryd rhan mewn trafodaeth na phleidlais ynghylch materion y mae ganddynt fuddiant rhagfarnus ynddynt.