Cydraddoldeb ym Mlaenau Gwent

Cydraddoldeb ac amrywiaeth a Deddf Cydraddoldeb 2010

Rydym yn cydnabod y gallai pobl ddioddef gwahaniaethu a bod dan anfantais am lawer o resymau. Mae gan y Cyngor hefyd rwymedigaeth foesol a statudol i adlewyrchu anghenion cymuned amrywiol trwy’r gwasanaethau a ddarperir ganddo ac fel cyflogwr.

Mae wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ar draws ein holl wasanaethau ac i sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb. Mae’r Ddeddf yn rhoi tegwch wrth galon cymdeithas, yn cysoni cyfraith gwahaniaethu, yn cryfhau’r gyfraith i gefnogi cynnydd ar gydraddoldeb, ac yn datganoli’r cyfrifoldeb am wahaniaethu i Gymru.
               
Roedd y Ddeddf yn cydgrynhoi’r 116 o ddarnau gwahanol o ddeddfwriaeth cydraddoldeb flaenorol ac mae’n rhoi’r hawl i bawb beidio â chael eu trin yn llai ffafriol gan awdurdodau cyhoeddus. Y nodweddion gwarchodedig (meysydd) y mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn berthnasol iddynt yw:                      

  1. Oedran
  2. Anabledd
  3. Ailbennu rhywedd 
  4. Beichiogrwydd a mamolaeth
  5. Hil
  6. Crefydd a chred
  7. Rhyw 
  8. Cyfeiriadedd rhywiol
  9. Priodas a phartneriaethau sifil

 
Nid yw’r Gymraeg yn rhan o’r Ddeddf Cydraddoldeb gan ei bod yn dod o dan ei darn penodol o ddeddfwriaeth ei hun – Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 – ond nid yw’n llai pwysig.  

Mae angen rhoi sylw dyledus i’r canlynol:  

  • Dileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu ac erledigaeth
  • Hyrwyddo cyfle cyfartal
  • Meithrin perthynas dda
  • Yn cynnwys cyflogaeth a darparu nwyddau a gwasanaethau (yn cynnwys staff a’r cyhoedd sy’n defnyddio gwasanaethau)

Dogfennau Cysylltiedig