Cefnogi Pobl

Dogfennau Cysylltiedig

Os ydych yn byw ym Mlaenau Gwent ac yn 16 oed neu drosodd ac yn ei chael yn anodd cadw eich cartref, mewn risg o golli eich swydd, angen symud neu angen help i drefnu eich arian - gallai Tîm Cefnogi Pobl gynnig cymorth i chi.  Nid ydym yn codi tâl am ein gwasanaeth drwy'r Grant Cymorth Tai a ariennir gan y Gwasanaethau.

Nod y Grant Cymorth Tai yw atal digartrefedd a helpu pobl i ddatblygu a chynnal y sgiliau angenrheidiol i fyw mor annibynnol a hunan-ddigon â phosib. Nid oes cost am y gwasanaethau hyn. 

Mae'r pethau a allai achosi i chi golli eich cartref y gallem eich helpu gyda chi yn cynnwys: 

  • A ydych yn gorfod talu mwy am fyw yn eich cartref?  A oes gennych ôl-ddyled nawr oherwydd hyn?
  • Ydych chi angen help i gysylltu â phobl, eich landlord neu asiantaethau eraill?
  • Ydych chi'n ei chael yn anodd cael eich landlord i wneud gwaith trwsio?
  • Ydych chi angen help i ganfod cyflogaeth, addysg neu leoliadau gwirfoddol?
  • Ydych chi'n ansicr faint o incwm y mae gennych hawl iddo.  A oes arnoch arian i unrhyw un?
  • Ydych chi'n ei chael yn anodd llenwi ffurflenni neu ddarllen llythyrau?
  • Ydych chi'n gwybod beth yw eich hawliau fel tenant?

Os credwch y gallech chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod cael budd o gefnogaeth yn y meysydd hyn neu feysydd eraill, cysylltwch â'r Tîm Cefnogi Pobl (gwybodaeth gyswllt islaw) os gwelwch yn dda.

Beth yw'r Grant Cymorth Tai?

Cyflwynwyd cynllun, comisiwn a monitro gwasanaethau cymorth cysylltiedig â thai ar gyfer pobl sy'n agored i niwed yn y gorffennol, y Grant Cymorth Tai 2019 (sef Supporting People Programme).  Gellir diffinio cymorth sy'n gysylltiedig â thai fel 'gwasanaethau cymorth a ddarperir i unrhyw berson at ddiben datblygu gallu'r person hwnnw i fyw'n annibynnol mewn llety neu gynnal eu gallu i gynnal eu cartref'.   

Mae enghreifftiau o gefnogaeth cysylltiedig â thai yn cynnwys: 

  • Help i sefydlu a chynnal cartref.
  • Help i atal troi allan ac atal digartrefedd.
  • Help i gael mynediad i wasanaethau eraill, cefnogaeth a rhwydweithiau cymdeithasol.
  • Help i gael mynediad i addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.
  • Cymorth i hawlio budd-daliadau/cynyddu incwm.
  • Help i drefnu a thrin arian.
  • Help gyda phroblemau tai.
  • Help gyda diogelwch personol/cymunedol, e.e. larymau cymunedol, ymddygiad gwrthgymdeithasol/troseddu.
  • Help i gynyddu annibyniaeth.
  • Help gyda sgiliau byw ymarferol a rhianta. 

Fodd bynnag ni fedrir rhoi help gyda gofal personol.  Dylech gysylltu â'r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol os ydych angen y gwasanaethau hyn. 

Mathau o wasanaethau Cefnogi Pobl

Mae llawer o amrywiaeth yn y mathau o wasanaethau sydd ar gael; gweler y rhestr ganlynol o enghreifftiau o wasanaethau Cefnogi Pobl: 

  • Cymorth fel y bo angen - mae gweithiwr cymorth yn ymweld â phobl yn eu cartrefi eu hunain i'w cefnogi i gynnal/cadw eu tenantiaeth/cartref. Darperir cymorth am gyfnod (yn dibynnu ar anghenion unigolyn).
  • Hostel Digartref - darparu llety interim/dros dro ar gyfer pobl sy'n ddigartref.  Cynlluniau tai gwarchod - tai gwarchod ar gyfer pobl sydd fel arfer dros 55 oed lle mae gan reolwr cynllun gysylltiad rheolaidd gyda thenantiaid a gwasanaeth larwm ar gael 24 awr y dydd ar gyfer argyfyngau.
  • Tai gwarchod 24 awr - llety lle mae staff ar y safle 24 awr y dydd.  Mae'n aml yn eiddo rhannu gydag ardaloedd cymunol megis lolfa a chegin ond gall hefyd gynnwys unedau hunangynhwysol gyda llety staff yn ymyl.
  • Tai â chymorth (dim 24 awr) - megis uchod ond staff heb fod ar y safle 24 awr y dydd.
  • Lloches Cam-drin Domestig - llety argyfwng/dros dro ar gyfer menywod neu ddynion sy'n ffoi rhag rais yn y cartref.

Pwy sy'n darparu'r cymorth?

Mae nifer ac amrywiaeth o ddarparwyr gwasanaethau Cefnogi Pobl yn gweithredu ym Mlaenau Gwent.  Mae rhai ohonynt yn ddarparwyr eithaf bach a all fod yn cefnogi 2 neu 3 o bobl, eraill yn ddarparwyr mwy a all fod yn cynorthwyo 20 neu fwy o bobl ar unrhyw un amser.  Mae darparwyr gwasanaeth yn cynnwys cymdeithasau tai, cyrff preifat, cyrff trydydd sector ac Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent.

Cysylltwch â’r tîm Cefnogi Pobl os gwelwch yn dda i gael mwy o wybodaeth a chyngor neu i wneud cais am unrhyw un o’r ffurflenni a restrir islaw.

  • Taflen Cymorth fel y bo’r Angen
  • Cyfeiriadur Gwasanaeth Cefnogi Pobl
  • Ffurflen Atgyfeirio Cymorth fel y bo’r Angen

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

Tîm Cefnogi Pobl
Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent
Llys yr Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB

Ffon: 07811068668, 07975773999, 07969652590.

Claire Davies, Swyddog Cynllunio, Monitro a Gwerthuso Claire.Davies@blaenau-gwent.gov.uk

Michelle Wyatt, Swyddog Cynllunio, Monitro a Gwerthuso michelle.wyatt@blaenau-gwent.gov.uk

Clare Congreve, Swyddog Cynllunio, Monitro a Gwerthuso clare.congreve@blaenau-gwent.gov.uk

Joanne Haycock, Gateway Co-ordinator, Joanne.Haycock@blaenau-gwent.gov.uk

E-bost: supporting.people@blaenau-gwent.gov.uk