Tystysgrif Mangre Clwb

Beth yw tystysgrif mangre clwb?

I awdurdodi cyflenwi alcohol ac adloniant wedi'i reoleiddio mewn clwb sy'n cymhwyso, rydych angen tystysgrif mangre clwb gan y Cyngor. Mewn clwb sy'n cymhwyso, nid oes yn dechnegol unrhyw werthiant drwy fanwerthu alcohol (heblaw i westeion) gan fod yr aelod yn berchen rhan o'r stoc alcohol ac nid yw'r arian sy'n pasio ar draws y bar yn ddim ond dull i gadw tegwch rhwng aelodau lle gall un yfed mwy nag un arall. Er mwyn bod yn glwb sy'n cymhwyso, mae'n rhaid i chi hefyd fodloni'r gwahanol ofynion a nodir yn Neddf Trwyddedu 2003.

Fel arfer caiff tystysgrif ei rhoi am gyfnod amhenodol ond gall fod am gyfnod sefydog a gellir ei adolygu unrhyw amser.

Pa ddeddfwriaeth sy'n rheoli tystysgrifau mangre clwb?

Deddf Trwyddedu 2003

Pwy all wneud cais?

I fedru gwneud cais am dystysgrif mangre clwb, mae'n rhaid i glwb fedru dangos ei fod yn cyflawni rhai meini prawf i'w alluogi i ddod yn glwb sy'n cymhwyso. Y meini prawf yw:

na all person gael aelodaeth neu fel ymgeisydd ar gyfer aelodaeth ar gyfer unrhyw freintiau aelodaeth heb gyfnod o leiaf ddau ddiwrnod o'u cais neu enwebiad am aelodaeth ac y dyfernir eu haelodaeth

bod rheolau'r clwb yn nodi na all y rhai sy'n dod yn aelod heb enwebiad neu gais gael breintiau aelodaeth am o leiaf ddau ddiwrnod rhwng iddynt ddod yn aelodau a chael eu derbyn i'r clwb

y sefydlir ac y cynhelir y clwb mewn ffydd da

bod gan y clwb o leiaf 25 aelod

mai dim ond i aelodau ar y safle ar ran neu gan y clwb y cyflenwir alcohol

Bydd cymdeithasau diwydiannol a darbodus cofrestredig a chymdeithasau cyfeillgar yn gymwys os caiff alcohol a brynir ar gyfer ac a gyflenwir gan y clwb ei wneud dan reolaeth yr aelodau neu bwyllgor o aelodau.

Gellir hefyd ystyried sefydliadau lles glowyr. Sefydliad perthnasol yw un a gaiff ei reoli gan bwyllgor neu fwrdd sy'n cynnwys o leiaf ddau draeaen o bobl a benodwyd neu a godwyd gan un neu fwy o weithredwyr trwyddedig dan Ddeddf Diwydiant Glo 1994 a gan un neu fwy o sefydliadau sy'n cynrychioli cyflogeion pyllau glo. Gall y sefydliad gael ei reoli gan y pwyllgor neu fwrdd lle na ellir ffurfio'r bwrdd fel y manylir uchod ond yn cael ei ffurfio o leiaf ddau-draean aelodau oedd yn cael eu cyflogi neu a gaiff eu cyflogi yn neu o amgylch pyllau glo a hefyd gan bobl a benodwyd gan Sefydliad Lles y Diwydiant Glo neu gan gorff gyda swyddogaethau tebyg dan Ddeddf Lles Glowyr 1952. Yn unrhyw achos, mae'n rhaid cadw safleoedd y sefydliad mewn ymddiriedolaeth fel sy'n ofynnol dan Ddeddf Elusennau Hamdden 1958.

Beth yw'r broses gais?

Wrth wneud cais am dystysgrif mangre clwb, mae'n rhaid i ysgrifennydd y clwb gyflwyno:-

y ffurflen gais briodol yn cynnwys y rhaglen wetihredu

cynllun o'r fangre

y ffi perthnasol

Datganiad i ddyfarnu Tystysgrif Mangre Clwb

copi o reolau'r clwb
 

Dylai'r rhaglen weithredu gynnwys manylion:

y gweithgareddau y mae angen trwydded ar eu cyfer

yr amserau y cynhelir y gweithgareddau

unrhyw amser arall pan fydd y fangre ar agor i aelodau a gwesteion

yn achos tystysgrif gyfyngedig, y cyfnod y mae angen tystysgrif ar ei gyfer

p'un ai a werthir yr alcohol ar gyfer ei yfed yn neu i ffwrdd o'r fangre neu'r ddau

y camau y cynigir eu cymryd i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu

Mae'n rhaid i'r ysgrifennydd anfon copïau o'r cais at Awdurdodau Cyfrifol. Mae hefyd yn rhaid iddo/iddi hysbysu'r cais drwy roi hysbysiad glas yn ffenestr y fangre clwb a hysbyseb yn y papur lleol.

Bydd cyfnod ymgynghori 28 diwrnod ar gyfer ceisiadau newydd a cheisiadau amrywiad ac yn ystod y cyfnod hwnnw gall yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân, Adrannau'r Cyngor a phersonau eraill megis preswylwyr lleol a busnesau, cynghorwyr ac ati wneud sylwadau.

A allaf wneud cais ar lein?

Gwneud cais am dystysgrif mangre clwb

Gallwch hefyd:-

Anfon datganiad am fangre clwb

Dweud wrthym am fân amrywiad i'ch mangre clwb

Dweud wrthym am newid sylweddol i'ch mangre clwb

Dweud wrthym am newid i'ch manylion presennol

Dweud wrthym am newid i reolau eich clwb

Talu eich ffi blynyddol

Faint yw'r gost?

Mae ffioedd yn seiliedig ar werth trethiannol eiddo a caiff gwerthoedd trethiannol eu rhannu yn 5 band, A i E. Mae'r ffi taladwy am dystysgrif yn dibynnu ar ba fand y mae eiddo ynddo. Codir ffi flynyddol hefyd.

How much does it cost?

 GWERTH TRETH-IANNOL

 0 to £4,300

 £4,301 to £33,000

 £33,001 to £87,000

 £87,001 to £125,000

£125,001

 BAND

 A

 B

 C

 D

 E

 CAIS

 £100

 £190

 £315

 £450

 £635

 FFI FLYNYDDOL

 £70

 £180

 £295

 £320

 £350

 AMRYWIAD

 £100

£190

 £315

 £450

 £635

 MÂN AMRYWIAD

 £89

 £89

 £89

 £89

 £89

 LLUOSYDD

 N/A

 N/A

 N/A

 £900

 £1905

D.S. Bydd ffioedd Band C yn weithredol yn achos mangre sy'n cael ei godi ond heb ei adeiladu eto, na phenderfynwyd y gwerth trethiannol

Pa mor hir fydd yn ei gymryd i brosesu nghais ac a fydd caniatâd dealledig?

Y cyfnod ymgynghori ar gyfer cais yw 28 diwrnod. Os na dderbynnir unrhyw sylwadau yn ystod y cyfnod yma, yna bydd caniatâd dealledig yn weithredol. Mewn geiriau eraill, bernir fod y cais wedi'i gytuno. Fodd bynnag, nid oes caniatâd dealledig os derbynnir sylwadau. Mae'n rhaid i'r Cyngor alw gwrandawiad, os oes angen, i benderfynu ar y cais, o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl diwedd y cyfnod ymgynghori 28 diwrnod. Mae'n rhaid i'r Cyngor ystyried pob sylw a phenderfynu os dylid dyfarnu'r dystysgrif gan ei bod yn y budd cyhoeddus i brosesu cais yn llawn cyn ei gytuno.  Gallwch e-bostio'r Tîm Trwyddedu os na chlywch am eich cais gan  Cyngor o fewn 56 diwrnod o'i gyflwyno.

A allaf apelio os gwrthodir fy nghais?

Gallwch, gallwch apelio yn erbyn penderfyniad y Cyngor i Lys Ynadon, o fewn 21 diwrnod o gael hysbysiad ysgrifenedig o'r penderfyniad. Gallwch hefyd apelio os y cytunir ar y dystysgrif ond nad ydych yn hapus gyda'r amodau a roddwyd ac yn erbyn dileu tystysgrif.

Gall rhywun sydd â diddordeb neu awdurdod cyfrifol a wnaeth sylwadau perthnasol ar gais apelio yn erbyn penderfyniad y Cyngor i roi'r dystysgrif, neu unrhyw amodau a osodwyd, i'r Llys Ynadon, o fewn 21 diwrnod o gael eu hysbysu am y penderfyniad.

Cwynion defnyddwyr

Gall rhywun a diddordeb, awdurdod cyfrifol neu aelod o glwb wneud cais i'r Cyngor am adolygu tystysgrif mangre clwb ac mae'n rhaid cynnal gwrandawiad i benderfynu ar y cais.