Urddas Mislif ym Mlaenau Gwent

Ers 2019, mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru, a elwir yn ‘Grant Urddas Mislif’, i helpu i fynd i’r afael â thlodi mislif ledled Cymru. Dylai pawb gael mynediad at gynhyrchion mislif, yn ôl yr angen, i’w defnyddio mewn man preifat sy’n ddiogel ac yn urddasol. 

Mae gan bob ysgol ym Mlaenau Gwent ystod o gynhyrchion mislif (tafladwy ac amldro) sydd ar gael i bawb sydd eu hangen. Rydym hefyd yn gweithio’n galed gyda grwpiau cymunedol i sicrhau ein bod yn cyrraedd cymaint o bobl â phosibl. Rydym am chwalu’r stigma a’r tabŵs ynghylch y mislif a’i wneud yn rhan arferol o fywyd yn ein hysgolion a’n cymunedau.

Dyma rai (ond nid pob un) o’r cynhyrchion sydd ar gael:

 

  • Pants amldro
  • Padiau amldro
  • Cwpanau mislif
  • Tamponau a phadiau tafladwy
  • Pecynnau i dadau
  • Pecynnau wrth fynd
  • Fy mhecyn mislif cyntaf

Mae dros 50 o leoliadau cymunedol ledled y fwrdeistref lle mae cynhyrchion mislif am ddim ar gael. Mae’r rhain yn cynnwys canolfannau hamdden, canolfannau ieuenctid, banciau bwyd, llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol a hybiau Dechrau’n Deg.

Os ydych chi’n adnabod unrhyw sefydliad/grŵp a fyddai â diddordeb mewn derbyn cynhyrchion, cysylltwch ag: 

emma.jones@blaenau-gwent.gov.uk