Mae’r Tîm Niwrowahaniaeth Cenedlaethol wedi datblygu dau fodiwl hyfforddi ar-lein i unrhyw un eu cyrchu.
Mae’r modiwl ‘deall awtistiaeth’ yn darparu lefel sylfaenol o ddealltwriaeth o awtistiaeth a’r ffyrdd y gallai effeithio ar fywydau beunyddiol pobl awtistig. Mae'n cynnwys cyngor ar bethau y mae modd i bobl eu gwneud, er mwyn deall awtistiaeth yn well.
https://neurodivergencewales.org/en/resources/elearning/understanding-autism/
Nod y modiwl ‘deall cyfathrebu effeithiol ac awtistiaeth’ yw gwella dealltwriaeth o wahaniaethau o ran cyfathrebu, y ffordd orau o gyfathrebu, a chynyddu ymwybyddiaeth o’r effaith y gall ffactorau amgylcheddol ei chael ar sut mae pobl awtistig yn cyfathrebu.
Cymuned Ymarfer
Mae amrywiaeth o recordiadau ar gael o'r digwyddiadau Cymuned Ymarfer.
Mae'r digwyddiadau hyn yn canolbwyntio ar amrywiaeth o wahanol gyflyrau niwrowahanol, a materion sy'n effeithio ar y gymuned niwrowahanol.
Daniel Jones - Autism and ADHD: Understanding The Interaction from AutismWales on Vimeo.
Gwasanaeth Cymorth Awtistiaeth i Blant
Mae Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod yn cynnig gwybodaeth a hyfforddiant, gan gynnwys hyfforddiant ôl-ddiagnosis i deuluoedd.
Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig
Mae'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig hefyd yn cynnig hyfforddiant i oedolion ag awtistiaeth a’u teuluoedd nhw, yn ogystal â chwrs ôl-ddiagnostig sy’n cyflawni'r canlynol:
Cwrs cadarnhaol a grymusol wedi'i ddatblygu ar gyfer pobl ag awtistiaeth (bydd angen i chi gael diagnosis o anhwylderau yn y sbectrwm awtistig i fynychu)
Bydd yn eich galluogi chi i gael dealltwriaeth o anhwylderau yn y sbectrwm awtistig
Byddwn ni'n siarad am bynciau gwahanol yn ymwneud â'ch diagnosis
Byddwn ni'n datblygu rhai syniadau gyda'n gilydd a fyddai'n gallu eich helpu gyda rhai o'r anawsterau sydd gennych chiBydd y cwrs yn para 6 sesiwn.
Bydd pob sesiwn yn para tua 2 awr a byddwn ni'n cael egwyl o 15 munud yng nghanol pob sesiwn.
Gwasanaeth Awtistiaeth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Sesiynau Cyngor Rhithwir i Rhieni a Gofalwyr
Sesiynau gwybodaeth ar-lein i rieni a gofalwyr, yn darparu gwybodaeth am ystod o bynciau yn ymwneud â niwroamrywiaeth. Mae pob sesiwn yn cynnwys cyflwyniad, ac yna sesiwn holi-ac-ateb.
Gall sefydliadau ac elusennau lleol eraill hefyd ddarparu hyfforddiant a chyngor pellach:
Blaenau Gwent Sparkle: https://bgfis.org.uk/cy/cefnogaeth-i-blant-a-theuluoedd/cymorth-anghenion-dysgu-ychwanegol/sparkle/
Hope GB https://hopegb.co.uk/
Sparkle North Gwent, including Blaenau Gwent - Nevill Hall | Sparkle, helping special children shine