Esbonio’r Dreth Gyngor 2024

Esbonio’r Dreth Gyngor 2024

Mae’r Cyngor wedi cytuno ar ei gyllideb ar gyfer 2024/25, ac mae’n bwriadu buddsoddi cyfanswm o £185 miliwn i ddarparu gwasanaethau i bobl Blaenau Gwent. Mae’r Gyllideb yn ceisio diogelu’r gwasanaethau rheng flaen sy’n cael eu gwerthfawrogi fwyaf gan drigolion a chadw’r cynnydd yn y Dreth Gyngor fel un o’r rhai isaf yng Nghymru.

Bydd y gyllideb y cytunwyd arni yn golygu cyllid o £53.5m ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol, £56.3m ar gyfer Ysgolion, a £36m ar gyfer Gwasanaethau Amgylcheddol. Mae'r gyllideb ar gyfer Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor wedi'i chynnal ar £10m i ddarparu cymorth ariannol i drigolion lleol cymwys.

Ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, mae’r Cyngor wedi cydnabod yr effaith y mae’r lefelau uchel parhaus o chwyddiant yn ei chael ar gyllidebau aelwydydd, ac wedi cytuno i gefnogi’r gyllideb gyda chyfraniad o’r cronfeydd wrth gefn o £1.5m, dyma’r ail flwyddyn yn olynol y bydd cronfeydd wrth gefn yn cael eu defnyddio i fantoli’r gyllideb ac mae wedi arwain at y Cyngor yn lleihau’r cynnydd yn y Dreth Gyngor a godwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i 4.95%.

Bydd y Cyngor yn parhau i fonitro cyllidebau’n agos drwy gydol 2024/2025, ac ar gyfer y tymor canolig, mae’r Cyngor yn parhau â’i raglen ariannol strategol o’r enw Pontio’r Bwlch, a fydd yn ei alluogi i gynllunio ei wariant yn unol â’i gyllid. O fewn y fframwaith hwn, bydd y Cyngor yn edrych ar ffyrdd pellach o gyflawni costau is a chynyddu incwm, tra'n lliniaru'r effaith ar wasanaethau.

 

Eich Bil Treth Gyngor 2024/2025

Cymharu Amcangyfrif Gwariant Refeniw Net 2023/2024 a 2024/2025.

             Portffolio

       2023/ 2024

    2024/ 2025

%   Cynnydd

 

            £000

         £000

 

Gwasanaethau Corfforaethol

            18,633

        26,293

     41.11

Gwasanaethau Cymdeithasol

             54,065

        53,159

     -1.68

Byw Llesol a Dysgu

             69,011

        69,032

      0.03

Economi

              1,356

             470

    -65.33

Amgylchedd

            29,260

       28,183

     -3.68

Cynllunio a Thrwyddedu

             1,543

         1,145

   -25.80

Arall

               150

           124

   -17.19

Cyfanswm Gwariant Refeniw Net

          174,018

      178,406

  

 

Sut y Cyllidir y Gyllideb

Ffynhonnell Cyllid

                   2024 / 2025

 

 

                          £000

     %

Treth Gyngor

                        40,196

    21.6

Grant Cymorth Refeniw

                       119,663

    64.4

Cronfeydd wrth Gefn

                          1,500

     0.8

Ardreth Annomestig Genedlaethol

                        24,381

    13.1

Cyfanswm

                       185,740

  100.0

 

Gwariant Cyfalaf

Yn 2024/2025 mae’r Cyngor yn amcangyfrif y bydd ei gyfanswm Gwariant Cyfalaf fel sy’n dilyn:

 

            2023/24

              2024/25

 

               £000

                 £000

Gwasanaethau Eraill

             73,233

               28,145

Cyfanswm

             73,233

               28,145

 

Amcangyfrif Cronfeydd Ariannol wrth Gefn

Cronfeydd wrth Gefn Refeniw – amcangyfrifir y bydd cronfeydd wrth gefn cyffredinol neilltuol yn sefyll ar £13. miliwn ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Asesiadau Gwariant Safonol

Cafodd Asesiad Gwariant Safonol y Cyngor ar gyfer 2023/2024 ei benderfynu gan Senedd Cymru fel  £171,843 ar gyfer 2023/24 a £178,361 ar gyfer 2024/2025.

 

Gofyniad Cyllideb yr Awdurdod

Gofyniad cyllideb yr Awdurdod ar gyfer blwyddyn 2023/2024 yw £181,850 ac ar gyfer 2024/2025 yn £185,740.

 

Y Dreth Gyngor ar gyfer Pob Ardal 2024/2025

Band/ Cymuned

      A

    B

     C

    D

    E

    F

    G

     H

      I

Abertyleri a Llanhiledd

1567.96

1829.28

2090.61

2351.94

2874.60

3397.24

3919.90

4703.88

5487.86

Brynmawr

1530.46

1785.54

2040.62

2295.70

2805.86

3316.01

3826.16

4591.40

5356.64

Nantyglo a Blaenau

1538.76

1795.23

2051.69

2308.15

2821.07

3333.99

3846.91

4616.30

5385.69

Tredegar

1536.90

1793.06

2049.21

2305.36

2817.66

3329.96

3842.26

4610.72

5379.18

 Glynebwy /   Cwm /  Beaufort

1512.95

1765.11

2017.27

2269.43

2773.75

3278.06

3782.38

4538.86

5295.34

 

Praeseptiau ac Ardollau

Mae’r cyrff dilynol wedi gosod praesept ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:

 

  2023/24

 Cyfwerth        Band D

  2024/25

 Cyfwerth       Band D

Heddlu Gwent

 6,752,190

   324.52

 7,317,677     349.52

Cyngor Cymuned Abertyleri a Llanhiledd

    289,000

     62.58

   381,131     82.51

Cyngor Tref Brynmawr

      43,000

     25.40

    45,000     26.27

Cyngor Tref Nantyglo a Blaenau

     91,170

     33.78

  105,000     38.72

Cyngor Tref Tredegar

   159,161

     33.60

  171,098     35.93

 

 

 

Mae’r cyrff dilynol wedi gosod ardoll o’r symiau a nodir ar y Cyngor

Sefydliad

              2023/2024

      2024/2025

%   Cynnydd

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

                   32,130

          32,130

          0

Gwasanaeth Tân

              3,953,469

      4,167,800

        5.42

Llys y Crwner

                 152,010

         174,980

      15.11

Cyfanswm

              4,137,609

      4,374,910

        5.74