Buddion Gweithwyr
Rydym yn cynnig ystod eang o fuddion i’n gweithwyr, a gall rhai ohonynt amrywio yn dibynnu ar rôl a chontract. Ymunwch â ni am yrfa sy'n gofalu amdanoch chi!
Amser i fagu nerth newydd:
Gwyliau blynyddol hael o 26 diwrnod y flwyddyn (pro-rata ar gyfer gweithwyr rhan-amser). Mae hyn yn cynyddu i 31 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth di-dor. Y gallu i brynu hyd at uchafswm o 10 diwrnod ychwanegol o wyliau blynyddol ym mhob blwyddyn wyliau. Hawl i wyliau banc o 10 diwrnod y flwyddyn (pro-rata ar gyfer gweithwyr rhan amser).
Hyblygrwydd ar ei orau:
Dewch o hyd i'r cydbwysedd perffaith rhwng bywyd a gwaith gydag amrywiaeth o opsiynau gweithio hyblyg gan gynnwys rhan-amser, rhannu swydd ac oriau cywasgedig ochr yn ochr â chyfleoedd gweithio gartref ac ystwyth.
Materion Lles:
Sicrhewch y cymorth sydd ei angen arnoch o ystod eang o wasanaethau sydd ar gael gan gynnwys mynediad at iechyd galwedigaethol a rhaglen cymorth i weithwyr.
Tâl:
Cyflogau cystadleuol gyda dyfarniadau cyflog blynyddol y cytunwyd arnynt yn genedlaethol a chynlluniau pensiwn hael. Rydym yn talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol sy’n cael ei osod yn annibynnol a’i ddiweddaru’n flynyddol. Am ragor o wybodaeth edrychwch ar y Datganiad Polisi Tâl.
Tyfu gyda Ni:
Cyrchwch gyrsiau hyfforddi, cymwysterau wedi'u hariannu a manteisiwch ar gyfleoedd sabothol i wella'ch sgiliau.
Iechyd a Ffitrwydd:
Mwynhewch aelodaeth campfa a hamdden am bris gostyngol a chadwch yn heini gyda'n cynllun Beicio i'r Gwaith (ar gael ar adegau penodol o'r flwyddyn).
Ar y Ffordd:
Mwynhewch fudd benthyciad car (os yw'n berthnasol) ac ad-dalu treuliau, gan gynnwys cynhaliaeth a milltiroedd sy'n daladwy yn unol â chyfradd gymeradwy Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi.
Ystyriol o deuluoedd:
Rydym yn cefnogi eich taith i fod yn rhiant gydag amrywiaeth o opsiynau absenoldeb, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth, mabwysiadu, benthyg croth ac absenoldeb rhiant.
Cysylltiad Cymunedol:
Cymerwch amser i ffwrdd â thâl ar gyfer gwirfoddoli a chyfrannu at achosion sydd o bwys i chi a'r gymuned leol.
Tosturi ar Waith:
Rydym yn deall heriau bywyd, yn cynnig gwyliau â thâl i ofalwyr, profedigaeth, salwch difrifol perthynas agos, a chymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig.
Cadw Llygaid ar Les:
Sicrhewch fod eich golwg o'r radd flaenaf gyda phrofion llygaid am ddim a chyfraniadau tuag at sbectol ar gyfer defnyddwyr Cyfarpar Sgrin Arddangos (DSE).
Cynllun Buddion Staff:
Mynediad at gynllun buddion staff ar gyfer gostyngiadau unigryw ar siopa, teithio, bwyta, prynu ceir newydd a mwy.
Undebau Llafur:
Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol ag Undebau Llafur cydnabyddedig mewn perthynas â thâl ac amodau gwasanaeth. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar fewnrwyd y Cyngor neu gan eich rheolwr.
Ymunwch â ni am yrfa sy'n gofalu amdanoch chi!
Lles Gweithwyr
Iechyd Galwedigaethol
Mae gennym wasanaeth Iechyd Galwedigaethol i amddiffyn a hyrwyddo iechyd, diogelwch a lles gweithwyr. Maent hefyd yn darparu mynediad i ystod o wybodaeth, sy'n cael ei diweddaru'n rheolaidd, sy'n canolbwyntio ar bynciau Iechyd a Lles.
Rhaglen Cymorth i Weithwyr
Gyda phwysau cynyddol yn y gwaith ac yn y cartref, mae yna adegau pan fydd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol arnom ni i gyd i gydbwyso gofynion bywyd bob dydd. Mae gan staff fynediad at Gwnselwyr ac Arbenigwyr Gwybodaeth proffesiynol annibynnol, sydd â phrofiad o helpu pobl i ddelio â phob math o faterion ymarferol ac emosiynol megis lles, materion teuluol, perthnasoedd, rheoli dyled, materion yn y gweithle, a llawer mwy.
Bwletin Lles
Dosberthir bwletin lles i bob aelod o staff. Bwriedir cefnogi staff, p'un a ydynt yn gweithio ar y rheng flaen, gartref, yn y swyddfa neu'n gweithio mewn Ysgol. Mae lles staff yn hollbwysig a bwriad y bwletin yw rhoi cipolwg o'r adnoddau sydd ar gael.
Iechyd a Diogelwch
Rydym yn sicrhau iechyd, diogelwch a lles ein holl weithwyr trwy ddarparu amodau gwaith diogel ac amgylchedd gwaith iach a diogel.
Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ym mhob agwedd ar gyflogaeth a bydd yn cymryd camau cadarnhaol i leihau unrhyw anfantais a datblygu cyfleoedd i bob unigolyn a grŵp. I gael rhagor o wybodaeth am ein hymrwymiad i gyfle cyfartal ar draws ein gwasanaethau, gan gynnwys recriwtio, ewch i'n hadran cydraddoldeb.