Rhoi Adroddiad am Dipio Anghyfreithlon a Sbwriel wedi ei Adael

Beth yw tipio anghyfreithlon?

Tipio anghyfreithlon yw gadael gwastraff yn anghyfreithlon ar dir cyhoeddus neu breifat.

Os yw rhywun yn tipio’n anghyfreithlon gallant gael dirwy hyd at £50,000, record droseddol neu, mewn achosion difrifol, ddedfryd carchar.

Gallwch roi gwybod i ni os ydych yn gweld sbwriel wedi’i dipio’n anghyfreithlon neu ei adael ar dir cyhoeddus neu preifat.

Hysbysu am Dipio Anghyfreithlon

O ble ydyn ni’n casglu tipio anghyfreithlon?

Rydyn ni’n casglu sbwriel a gafodd ei adael a thipio anghyfreithlon o holl dir y Cyngor yn cynnwys:

  • Lonydd cefn
  • Ffyrdd
  • Palmentydd
  • Parciau

Nid ydym yn casglu sbwriel a thipio anghyfreithlon o dir preifat.

Tipio anghyfreithlon ar dir preifat

Perchennog y tir sy’n gyfrifol am symud y gwastraff os cafodd sbwriel ei dipio’n anghyfreithlon ar dir preifat.

Efallai y gallwn roi help gyda symud y sbwriel os yw perchennog y tir yn gofyn am help.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Anelwn symud sbwriel a gafodd ei dipio’n anghyfreithlon o fewn 4 diwrnod gwaith.

Chi sydd yn gyfrifol am eich sbwriel

Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio fod unrhyw un y talwch iddynt symud eich sbwriel wedi cofrestru fel cludwr gwastraff.

Dylech: 

  • Weld eu tystysgrif
  • Cael derbynneb yn cadarnhau beth maent wedi mynd ag ef ac i ble
  • Cael cadarnhad o unrhyw daliad a wnaed

Gallai deiliad tŷ gael ei ddirwyo os gellir olrhain unrhyw wastraff yn ôl i’r tŷ y daeth ohono.

Gallwch edrych ar-lein ar y rhestr o gludwyr gwastraff sydd wedi cofrestru drwy fynd i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru