Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984
Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Mannau Parcio ar Y Stryd) (Gorfodi Parcio Sifil a Chydgrynhoi) 2019 (Rhif Diwygio 20)
RHODDIR HYSBYSIAD DRWY HYN fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, yn unol â Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996 a Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel “y Ddeddf”), fel y’I diwygiwyd, a Rhan IV o Atodlen 9 i’r Ddeddf, a Deddf Rheoli Traffig 2004 (“Deddf 2004”) a phob pŵer galluogi arall, ac ar ôl ymgynghori â Phrif Swyddog yr Heddlu, yn cynnig gwneud y gorchymyn uchod a diwygio’r cyfyngiadau ar y ffyrdd canlynol fel yr amlinellir isod ac yn yr atodlen.
• Mae’r cyngor yn cynnig gwneud Gorchymyn Diwygio Rhif 20, a fydd â’r effaith gyffredinol o ddiwygio Gorchymyn Cydgrynhoi Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Amrywiol Ffyrdd) (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Mannau Parcio ar y Stryd) 2019 (“y Gorchymyn Cydgrynhoi”). Mae’r cyngor yn ystyried gorchymyn i gyflwyno llinellau melyn dwbl lle mae angen sicrhau defnydd diogel ac effeithlon o’r rhwydwaith priffyrdd.
• Effaith y gorchymyn fydd cyflwyno cyfyngiadau Dim Aros ar Unrhyw Adeg” ar hyd y ffyrdd a nodir ar fapiau atodol J22A, G17A, G18A, P18A, P19A, Z44A, Z44B a Z38A.
Mae manylion llawn y cynigion hyn yn y gorchymyn drafft, sydd, ynghyd â chynllun sy’n dangos yr ardal gyfyngedig a datganiad o resymau’r cyngor dros gynnig gwneud y gorchymyn, ar gael ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a byddant felly tan ddiwedd y cyfnod o 21 diwrnod o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad hwn.
Os ydych chi am wrthwynebu’r gorchymyn arfaethedig, dylech anfon y sail dros eich gwrthwynebiad yn ysgrifenedig at y sawl sydd wedi llofnodi isod erbyn 19 Chwefror 2026. Bydd angen cyflwyno gwrthwynebiadau mewn neges e-bost neu drwy ysgrifennu fel yr amlinellir isod. BSEnvAndRegen@blaenau-gwent.gov.uk neu ysgrifennwch at: Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6DN.
DYDDIEDIG: 29 Ionawr 2026
MARK THOMAS
Cyd-gyfarwyddwr Cymdogaeth a’r Amgylchedd
Dogfennau Cysylltiedig
- Datganiad o’r Rhesymau
- TRO_Z44B- Melbourne Road, Abertillery
- TRO_Z44C- Somerset Street, Abertillery
- TRO_Z44A - Melbourne Rd
- TRO_Z38A - Cwmtillery Ind Est, Abertillery
- TRO_G18A - Tarfarnubach Ind Est, Tredegar
- TRO_G18 - Tafarnaubach Ind Est
- TRO_G17 - Tafarnaubach Ind Est
- TRO_G17A - Tarfarnubach Ind Est, Tredegar
- TRO_Z38 - Cwmtillery Ind Est
- TRO_J22 - St Georges Court Tredegar
- TRO_J22A- St Georges Court, Tredegar
- TRO_P18 - Newchurch Road
- TRO_P18A - Newchurch Road, Ebbw Vale
- TRO_P19A - Newchurch Road, Ebbw Vale
- TRO_P19 - Newchurch Road