LLWYBR TROED Rhif 85 Abertyleri

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

(LLWYBR TROED Rhif 85 Abertyleri)

GORCHYMYN CAU BRYS 2025

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, wrth arfer ei bwerau o dan adrannau 14(1)(b) a 15(1)(a) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd) a phob pŵer galluogi arall, yn bwriadu cau, i bob cerddwr, 58 metr o’r llwybr, fel y disgrifir yn fwy manwl yn yr atodlen isod, am gyfnod hiraf a nodir.

ATODLEN

Lleoliad                Rhan o lwybr troed (hawliau tramwy cyhoeddus) a elwir yn 331/85, hyd 52m, rhwng Cyf CG 321759Dn, 205969G a Chyf CG 321735Dn, 205922G

Llwybr amgen    I’r de ar hyd Brookside Row ac yna i’r gorllewin ar hyd llwybr dros dro i’r de o gofeb William Williams, yna i gornel ogledd-ddwyreiniol mynedfa’r cae pêl-droed

Rheswm              Amddiffyn y cyhoedd rhag perygl tra bod y cwlfer sydd wedi cwympo yn cael ei atgyweirio

Parhad                 O 4pm ar 18 Mehefin 2025 am gyfnod o chwe mis ar y mwyaf neu nes bod y gwaith wedi’i gwblhau, pa un bynnag sydd gynharaf

Dyddiedig y 29ain diwrnod hwn o Fai 2025

Kevin Kinsey B.Eng. (Anrh), MBA., C.Eng., MICE

Rheolwr Gwasanaethau Seilwaith

Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6DN