Rhoddir hysbysiad drwy hyn fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn cynnig gwneud gorchymyn o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, a phob pŵer galluogi arall, a fydd yn cael yr effaith ganlynol:
1. Gwahardd symudiadau cerbydau sy’n teithio i gyfeiriad gorllewinol fel y nodir yn yr hysbysiad hwn – Stad Hafodarthen o’i chyffordd â Stad Mount Pleasant i’w chyffordd â Stad Mount Pleasant fel y nodir yn yr hysbysiad hwn.
Mae manylion llawn y cynigion hyn yn y gorchymyn drafft, sydd, ynghyd â chynllun sy’n dangos y darn o ffordd lle bydd y gorchymyn yn berthnasol a datganiad o’r rhesymau drosto, ar gael ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Byddant ar gael yma tan ddiwedd y cyfnod o 21 diwrnod o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad hwn.
Os ydych chi am wrthwynebu’r cynigion, bydd angen i chi anfon y sail dros eich gwrthwynebiad yn ysgrifenedig at y Gwasanaethau Seilwaith, CBS Blaenau Gwent, Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6DN neu anfon neges BSEnvAndRegen@blaenau-gwent.gov.uk a bydd angen i’ch gwrthwynebiad gael ei dderbyn erbyn 19 Chwefror 2026. Ni fydd unrhyw wrthwynebiad a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwnnw yn cael ei ystyried.
Dyddiedig: 29 Ionawr 2026
MARK THOMAS
Cyd-gyfarwyddwr Cymdogaeth a’r Amgylchedd
ATODLEN
|
Colofn 1 Enw’r ffordd
|
Colofn 2 Y cyfeiriad a ganiateir
|
|
Stad Hafodarthen o’I chyffordd â Stad Mount Pleasant i gyfeiriad dwyreiniol i’w chyffordd â Stad Mount Pleasant
|
Gorllewin – Dwyrain
|