Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Golwg Y Cwm, Tredegar, Gorchymyn Traffig Unffordd 2025
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel “y Cyngor”), wrth arfer ei bwerau o dan adrannau 1 (1) a (2), 2(1) i 3 a Rhan IV o Atodlen 9 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel “y Ddeddf”) a phob pŵer galluogi arall, ac ar ôl ymgynghori â Phrif Swyddog yr Heddlu yn unol â Rhan III o Atodlen 9 i’r Ddeddf, drwy hyn yn gwneud y gorchymyn canlynol:-
1. Rhaid i neb, ac eithrio ar gyfarwyddyd cwnstabl heddlu mewn lifrai neu rywun a awdurdodwyd gan y Cyngor, beri na chaniatáu i unrhyw gerbyd fynd ar hyd y ffordd a bennir yng Ngholofn 1, am y hyd a bennir yng Ngholofn 2, i gyfeiriad heblaw’r un a bennir yng Ngholofn 3 o Atodlen 1 i’r gorchymyn hwn.
2. Daw’r gorchymyn hwn i rym ar yr 31ain diwrnod o fis Hydref 2025 a gellir cyfeirio ato fel Gorchymyn Traffig Unffordd Golwg y Cwm, Tredegar, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent 2025.
ATODLEN
Colofn 1 Enw’r ffordd |
Colofn 2 Hyd y ffordd |
Colofn 3 Cyfeiriad |
Golwg y Cwm |
Golwg y Cwm o’i chyffordd â Chilgant Pochin i gyfeiriad gogledd-ddwyreiniol i’w chyffordd â Hafan Heddwch a Theras y Glyn, sef pellter o tua 29 metr |
Gogledd-ddwyrain |
Rhoddwyd o dan sêl gyffredin Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ar yr 22ain diwrnod hwn o fis Hydref 2025.
Gosodwyd sêl gyffredin Cyngor Bwrdeistref
Sirol Blaenau Gwent yma
ym mhresenoldeb: -
Swyddog Awdurdodedig
Mark Thomas
Cyfarwyddwr Cymdogaethau a’r Amgylchedd